Gwirwyd y dudalen hon
adref yr aed yn sŵn meddyliau ei gilydd. Y farchnad ddilynol cariodd y basgedi hyd at y Pren Gwyn a throdd yn ei ôl, ac wrth y Pren Gwyn yr arhosai amdani yn y prynhawn, a pharhaodd felly am wythnosau, a daeth hapusrwydd yn ôl i'r tŷ, a llwyddiant yn sglein arno.