Allan led cae neu ddau o'r winllan goed daethom at adwy yn pwyso ar drawst o bentan i bentan. Yr ochr arall i'r adwy yr oedd ffordd gul am tua chanllath ac adwy arall. Ni wnaed ond prin cael a chael yr adwy gyntaf nad oedd tarw milain yr olwg ar ein gwarthaf. A lwc dda oedd inni roddi'r trawst yn ôl fel y'i caed. Rhuthrwyd at yr adwy arall am ddihangfa ac Elis yn tywallt melltithion ar ben Gwilym am eu tywys i'r fath le. Erbyn cyrraedd yr adwy honno yr oedd ci mwy mileinig yr olwg yn ein gwylio ac fel pe'n dywedyd "hyd yma y deuwch ond ddim ymhellach". 'Wiw oedd troi'n ôl canys yno yr oedd y tarw yn malu ewyn ac yn ceibio'r tyweirch â'i draed, a phe neidiem dros un o'r ddau glawdd byddem wedyn yn ei afaelion. Yno yr oeddem mewn cul de sac. Rhuai'r tarw ni at y ci, a'r ci yn ein cyfarth yn ôl at y tarw. Yno y buom rhwng megis Pihahiroth, Balseffon, a'r môr, neu Scylla a Charybdis, a hynny am ddigon o hyd i ofni bron cael byw. O'r diwedd gwelem het yn nesu atom, a phob yn dipyn daeth y dyn oedd dan yr het i'r golwg. Ac aeth Elis ato, yn awr yn dra ffyrnig yr olwg, a dywedodd,—"Pam na chedwch chi drefn a dosbarth ar eich bwystfilod, ddyn ?"
Y Dyn. "Pa fwystfilod sydd yn aflonyddu arnoch chi, ŵr dieithr ?"
Elis. "Ŵr dieithr, ai e? Wyddoch chi ddim â phwy ych chi yn siarad, a phwy sy'n siarad â chi? 'Chlywsoch chi ddim sôn amdana' i"?
Y Dyn. "Naddo".
Elis. "Na darllen fy ngwaith?"
Y Dyn. "Darllen eich gwaith, wir; pa waith a all llipryn fel chi neud?"
Elis. "O, mi wela'; un o'r rheiny ych chi sy'n caru'r tywyllwch yn fwy na'r goleuni".
Y Dyn. "Pwy yw'r dynion acw sy'n eu cwrcwd yn yr hesg a'r rhedyn, a beth yw'r ymguddio sydd arnynt ?"
Elis. "Gwilym Cowlyd, a—". Ond cyn i Elis enwi'r lleill, yr oedd y dyn drwy'r adwy ac yn rhedeg i ysgwyd llaw â Gwilym. A phan oedd y ci yn pasio i fynd ar ôl ei feistr, ysgyrnygodd Elis ei ddannedd gan anelu ergyd arno â'i ffon, ac oni bai i'r meistr gyfryngu, buasai dannedd y ci wedi eu plannu yn y tipyn cnawd a oedd am esgyrn coesau Elis.