Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y noson honno lletyasom yn Kelso, ac fe ymwelsom ag adfeilion yr hen fynachlog. Piti oedd i'r fath ddinistr oddiweddyd yr hen fynachlogydd Sistersaidd hyn. Hawdd y gallasid eu haddasu ar gyfair yr oes newydd a oedd ar y trothwy. Rhaib anniwall yw dinistrio hen sefydliadau fel y rhain, a cholled na ellir ei sylweddoli. Yr un dynged a ddigwyddodd i hen fynachlogydd Cymru y sydd heddiw yn addurn i'n gwlad yn eu hadfeilion, ac yn dystion o'u duwiolfrydedd a'u gofal, yn enwedig o'r tlawd a'r anghenus.

Y lle nesaf i ymweld ag ef oedd Coldstream ac yn y gymdogaeth yma yr oeddem i ymweld â theulu a adwaenem. Ar ôl ymgom hapus â'r teulu, symudasom i Ferwig ar Glwyd (Berwick on Tweed). Yr oedd hyn ar dydd Sadwrn, ac yma fe ddisgynnodd rhyw flinder annisgrifiadwy arnom gweld cymaint, a theithio cymaint, o ddydd i ddydd, collasom bob archwaeth at weld dim mwy. Sychedem am ychydig seibiant i fyfyrio ar a welsom ac a glywsom. Ond ni allem feddwl am aros ym Merwig dros y Sul, a'r cwestiwn oedd b'le i fynd. Yn ystod tamaid a llymaid yn Coldstream penderfynasom droi pen y cerbyd yn ôl—teithiwyd yn ddibwynt fel hyn am lawer o filltiroedd. Yn sydyn trawyd ni â'r syniad mai gwell oedd mynd i Gaerliwelydd o'r lle y cychwynasom, a chyrhaeddwyd yno gyda'r hwyr.

Fore trannoeth aethom i'r moddion yn yr Eglwys Gadeiriol a dyrchafasom ein calonnau mewn diolch i Dduw am ein cynnal a'n cadw ar hyd y daith.

A dyma'n taith ni yn yr Alban drosodd yn union fel y cynlluniasem hi, ond inni ei gwneud mewn llai o amser o ddeuddydd neu dri. Teithiasom trwy wlad Thomas Carlyle, Robert Burns, a Syr Walter Scott, y sydd mor amlwg yn hanes Sgotland a'r byd. Ein tuedd ni yng Nghymru yw aros gartref ormod yn lle mynd o amgylch i ehangu ein meddyliau a gweld gorwelion newydd, a chyfoethogi ein llenyddiaeth trwy ymgydnabyddu â llenyddiaeth gwledydd eraill.

Digwyddiad hollol ddamweiniol oedd inni fynd i ardal y llynnoedd yng Nghumberland, a gwlad Wordsworth. Cychwynnwyd o Gaerliwelydd trwy Penrith, dros y Shap i Kendal, Windermere, Grasmere, Ambleside, Derwent, Bassenthwaite, Maryport, Silloth, ac yn ôl. Fel y mae'r mynyddoedd