modur ac yn ei roddi yn y modurdy, canys yr oedd wedi sicrhau llety yn un o'r tai. Yn od ddigon tŷ y dyn hwnnw oedd ein llety y noson honno, a chawsom ymgom hapus ag ef a'i briod a chryn dipyn o hanes y fro a'i thrigolion.
Y lle nesaf y daethom iddo, ar ôl oriau o deithio, oedd Callendar ac ar y ffordd cawsom gip ar Loch Katrine a'r Trossachs. Rhamantus iawn oedd y lleoedd hyn a'r dref ymnythu'n dawel rhwng y mynyddoedd cribog ac uchel. Carem aros yno'n hwy ond yr oedd amser yn ein herbyn, ac am hynny trowyd pen y modur i gyfeiriad Edinburgh. Yn awr yr oedd yn rhaid prysuro canys yr oedd gennym ffordd go bell i fynd. Cyrhaeddwyd yno gyda'r hwyr, ond yn rhy hwyr i weld dim o'r ddinas, fwy na mynd i'r Sŵ i basio heibio ychydig amser cyn mynd i noswylio.
Drannoeth yr oeddem ar ein ffordd i'r Castell trwy'r brif heol a elwir yn Princes Street. Parciwyd y cerbyd ar lawnt y Castell a chawsom arweinydd medrus i'n tywys trwyddo. Adroddodd ei hanes yn fyr a chryno, ac ar ôl gorffen ohono a'n gadael i ni ein hunain, aethom at y War Memorial nad oes ei ail na'i gyffelyb yn unman. Treuliasom gymaint o amser ag a allem i edrych o gwmpas ar yr adeilad gorwych i gofio'r rhai a syrthiasai yn y Rhyfel Mawr. Y mae'n rhaid gweld yr adeilad hwn, a threulio mwy o amser ynddo nag oedd yn bosibl i ni, i weld ei odidowgrwydd a'i fwynhau. Methais â chael neb i ddywedyd wrthyf pwy a'i dyfeisiodd. O ben y Castell cawsom olwg odidog ar y wlad brydferth o amgylch.
Y lleoedd nesaf i ymweld â hwynt oedd mynachlog Melrose ac Abbotsford, ac yn awr yr oeddem yng ngwlad Syr Walter Scott. Aethom i'w dŷ a thrwyddo, neu yn hytrach y rhan honno o'r tŷ a breswyliai ef. Ac yr oedd yn union yr un fath â'r pryd hwnnw, a phopeth yn ei le fel y'i gadawodd y tro olaf. Gwelsom ei lyfrgell fawr o 20,000 o gyfrolau, ac ynddi ei gadair a'i ddesg. Yn y neuadd yr oedd ei ffon a'i het fel pe'n disgwyl am eu perchennog, ac yn yr ystafell yn ymyl, ei wely. Yr oedd yno amryw o ymwelwyr â'r lle. Oddi yno aethom i Dryburgh Abbey i weld ei fedd a bedd Iarll Haig yn ymyl. Carreg a chroes wedi ei thorri arni oedd ar fedd yr olaf yn union deg yr un fath a'r un faint â'r miloedd croesau a welir yn Ffrainc a Fflandrys.