Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn awr i gyfeiriad Ayr gyda glannau Nith am ryw ran o'r ffordd.

Ac yma y ganed Burns. Gwelsom ei dŷ, a'r noson honno darllenasom ei "Cotter's Saturday Night", a dyna ddisgrifiad o'i deulu, ei dad a'i fam a'i frodyr a'i chwiorydd. Yn awr yr oedd yn hwyrhau a chan nifer yr ymwelwyr yn y dref brydferth ar lan y môr, nid oedd gwely i'w gael am bris yn y byd a ninnau mor flin. Mynd oedd raid eto, a gwelsom mai ofer oedd colli amser i holi am wely a brecwast. Ar ôl hir deithio cyraeddasom Gaer Alclud (Dunbarton), ac ar ôl croesi Clwyd (Clyde) cawsom lety cysurus.

Fore drannoeth yr oeddem ar lan Loch Lomond ac yn teithio'r ffordd a redai fin-fin ag ef am 25 milltir, a'r mynyddoedd uchel o boptu iddo, ac yn bwrw eu cysgodion i'w lesni distaw a llonydd. Pasiem ynys ar ôl ynys o wahanol faintioli, ac yr oedd 30 ohonynt yn britho'i wyneb. Daethpwyd o'r diwedd i'w derfyn a dechreuwyd dringo'n raddol gefndir o fynydd, ond cyn mynd nepell gwelsom ddyn yn eistedd ar ymyl y ffordd yn cymryd hamdden. Euthum ato ac fe eisteddais yn ei ymyl tra oedd fy nghydymaith yn crwydro o gwmpas. Ie, dyn o'r gymdogaeth ydoedd, ac yn cyfeirio tuag adref. Ar ôl holi ac ateb ein gilydd, gofynnodd imi a fûm i ar ben Ben, gan bwyntio â'i fys at Ben Lomond. Ysgydwais fy mhen yn nacaol. "Ddim ar ben Ben", meddai gyda syndod. Dywedais ei bod yn ormod o'r dydd i mi ddringo i'w ben. Tynnodd yntau glamp o oriawr o'i boced ac addefodd ei bod. Ar ôl ymado ag ef aethom rhagom ar hyd ffordd unig am filltiroedd lawer gan hiraethu am lety a gwely a thamaid a llymaid i dorri ein newyn a'n syched. O'r diwedd gwelsom ryw hanner dwsin o dai heb fod ymhell a modurdy gerllaw, ond nid yn agos. Arhoswyd wrth y modurdy, ac fe aeth John i holi am lety. Yn union wedi iddo droi ei gefn dyma fodur o gyfeiriad arall yn prysuro i lawr ac yn aros wrth dŷ'r modur. Neidiodd y gyriedydd allan ar ffrwst a chan edrych yn llidiog arnaf, gofynnodd pa hawl oedd gennyf adael fy 'merfa' wrth y drws i'w atal ef i mewn. Galw fy Awstin 10 yn ferfa a'm cythruddodd yn aruthr, ac fe edrychais ar y dyn, yn llewys ei grys erbyn hyn, yn dra ffyrnig, ac mor ffyrnig nes llareiddio ohono gryn dipyn. Cyn i ddim pellach ddigwydd yr oedd John yn ei ôl i symud y