Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hiding Him from the foolish",—Natur yn datguddio Duw i'r doeth ac yn ei guddio rhag yr annoeth. Fe ddywedwyd yr un gwirionedd gan y proffwyd Eseia, ac fe'i dyfynnwyd gan yr Iesu "Gan glywed clywch, ond na ddeallwch, a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch". A fyn wybod meddwl Carlyle darllened ei Sartor Resartus. Cefnasom ar y pentref tawel hwn a'i atgofion hyfryd, a chyfeiriasom ein hwynebau tua Dumfries.

Yr oedd yr wybren uwchben yn las o gwr i gwr a chyn lased â'r genhinen, a chymylau gwynion yn britho'r glesni Ac yn y pellter draw mynyddoedd yr ucheldiroedd yn ymddangos fel yn cwrdd â'r glesni, a'r glesni yn gefndir iddynt. Yn Dumfries fe aethom yn ddi-oed i weld delw-golofn Robert Burns. Ganed ef yn 1796 a bu farw yn 1803 yn ddim ond 37 mlwydd oed. Gadawyd ei fedd ef a beddau ei blant hefyd a'i wraig, ei bonnie Jean. Arosasom am ychydig ar garreg ei ddrws, ac ar y garreg honno y syrthiodd y bardd ffwdanus ac y cysgodd a chaenen wen o eira yn orchudd arno yn y bore. "Yr ydych yn falch o Burns", meddwn wrth ddyn a ddigwyddai aros gerllaw. "Ydym", meddai'r ateb, "ac y mae'r byd yn falch o Burns". Defnyddia Burns y gair bonnie, canys dyna fel yr ysgrifennai ef y gair, ac nid bonny, fel y gwneir yn aml gan ysgrifenwyr. Nid oes gennym ni yn Gymraeg na Saesneg air yn ateb iddo nac yn ei gynnwys. Meddylier am bonnie Dundee ; bonnie, bonnie banks of Loch Lomond; a bonnie Jean. Croeswyd y trothwy, a rhowd tro trwy'r tŷ, a'r ystafell a'r gwely y bu arno, y gegin a pheth o'r dodrefn a berthynai i'r bardd. Ac yno yr oedd delw mewn plastr o'i ben, a phen yr un ffunud â phen Goronwy Owen. Yr oedd yr Iberiad yn gryf yng Ngoronwy ac yntau, a'r Iberiad oedd y bardd, y cerddor, a'r cyfriniwr, a chydoesai'r ddau â'i gilydd, ac un arall o'r un cyfnod oedd Ieuan Brydydd Hir, ond bod y Goidel yn gryfach ynddo ef, ac o ganlyniad yn llai o fardd, ond yn fwy o hynafiaethydd. Dynion a gwendidau amlwg iawn oedd y tri, a'r un mor amlwg â hynny oedd eu rhinweddau, eu hedifeirwch a'u parodrwydd a'u hawydd i wneud iawn am eu beiau. Nid oes yng ngweithiau yr un ohonynt feddyliau isel a di-chwaeth. Trafferthus o ffwdanus fu bywydau'r tri, ond gadawsant ar eu hôl weithiau a restrir ymysg y clasuron. Yr oedd yn rhaid mynd unwaith eto, ac