Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIV

TRO YN SGOTLAND

DDECHRAU Awst diwethaf cychwynnodd dau ohonom i fynd am dro i Sgotland, a hynny am y tro cyntaf yn ein hanes. Yr oedd y bore'n braf gyda'r eithriad o haenen denau o niwl yn gorchuddio bro a bryn. Pelydrai'r haul weithiau trwy'r gorchudd tenau gan daflu cysgodion y coedydd a'r gwrychoedd yn emwaith cyfrodedd ar y ffordd. Yr oedd llyn Tegid fel môr o wydr yn adlewyrchu'r bryniau o gwmpas yn ei ddyfroedd grisialaidd. Ymlaen â ni fel hyn fel dynion yn mynd trwy wlad hud a lledrith. Terfyn siwrnai'r dydd cyntaf oedd Caerliwelydd (Carlisle). Ac yr oeddem wedi teithio 232 o filltiroedd neu o gwmpas hynny.

Fore trannoeth cychwynnwyd yn dra bore, a'n hwynebau yn awr ar iseldiroedd yr Alban, a heb fod yn hir daethom i Gretna Green. Yno aethom i'r efail enwog am ei phriodasau dirgelaidd, ond nid yr hynt honno oedd ein neges ni. Gwelsom yr hen eingion a'r morthwyl a benderfynai'r amod, a gwrandawsom ar y gof, os gof hefyd, yn mynd trwy druth o wir ac anwir, a'r gwyddfodolion yn llyncu pob gair a ddiferai dros ei wefusau fel efengyl iachus. O'r fan honno prysurwyd trwy wlad brydferth a'r mynyddoedd uchel yn y pellter draw yn dyfod i'r golwg, ac yn y man yr oeddem yn Ecclefeçhan, pentref genedigol Thomas Carlyle. Yn awr yr oeddem yn ôl traed yr hen Gymry gynt, canys Eglwys Fach yw'r ystyr. Y peth cyntaf a dynnodd ein sylw oedd y tŷ y ganed y Doethor ynddo. Ac yn y fynwent gerllaw yr oedd ei fedd. Bu ef farw ar y 5 o Chwefror, 1881. Cefais ymgom hir ag un a'i cofiai ac a'i hadwaenai'n dda. Ar gwr y pentref yr oedd delw ohono yn eistedd ar gadair mewn dwys fyfyrdod. Darllenais yn ddiweddar erthygl arno gan ŵr o nod a ddywedai mai ef oedd prif bregethwr ei oes, er na fu mewn pulpud erioed. Trwy ei lyfrau y pregethai ef, a hynny yn bennaf yn erbyn ffug a rhagrith. Edrychai ar ei oes fel un arwynebol iawn, a'i ymdrechion oedd deffro'r wlad i ddifrifolwch a gwirionedd. Fe'i gwelir ef yn bur gyflawn mewn un frawddeg o'i eiddo, "Nature is the time vesture of God revealing Him to the wise, and