Gwirwyd y dudalen hon
ymwahanwyd i gynnal yr Eisteddfod ynglŷn â'r Arwest wrth Gadair a Cholofn Taliesin, Pen Beirdd y Gorllewin. Yno'r oedd y delyn a'r crwth wrth eu gwaith.
Aeth un neu ddau ohonom o amgylch y llyn a'i ddyfroedd grisialaidd, a dychwelwyd i'r bryncyn y mae Cadair Taliesin yn ei gesail. Yno'r oedd y delyn, ac eisteddasom yn ei hymyl. Chwythai awel denau ar y pryd, a llanwai croth pob tant o'r delyn â melys leisiau a'n dyrchafodd i fyd y sylweddau tragwyddol.
Those strains that once did sweet in Zion glide.