fynwent trwy'r porth hynafol, ac o amgylch Seion gan "ystyried ei rhagfuriau", ac edrych yn syn ar yr hen yw â'u cangau cyhyrog a gurwyd gan stormydd llawer canrif. Yn ffodus yr oedd y drws yn agored. Pyrth isel a chulion sydd i'r hen eglwysi yn ddieithriad, ac yn neilltuol felly i'r hen eglwys Geltaidd hon a adeiladwyd fel y cyfryw ar ffurf y Deml ac nid Basilica Rhufain, a throai'r drws ar ei golyn. Iddi hi yr arferai'r dywysoges—priod Llywelyn Fawr ddyfod i addoli o Neuadd Llywelyn yn Nhrefriw, ac ar ei chyfer hi yr adeiladodd ef Eglwys Trefriw i arbed iddi y daith anhygyrch i Lanrhychwyn. A bu yntau ei hun yn plygu ei ben trwy yr un drws, a hwnnw yn ddigon isel a chul, ac yn cadw mewn cof gwastadol y porth cyfyng a'r ffordd gul i wrêng a bonheddig, cardotyn a thlawd.
Wrth sefyll yng nghanol y gafell santaidd dyrchafodd un ei lais gydag oslef mynach o'r Oesoedd Canol a dywedodd,—"Nid oes gyda fi wrthwynebiad i bawb addoli fel y mynnont, ond rhowch i mi yr hen demlau hyn sydd yn ddameg o grefydd a phortread o Gristnogaeth".
Ymadawyd o'r Eglwys, a chymerwyd y llwybr a arweiniai ar draws ychydig gaeau a ffriddoedd i lawnt Taliesin ar lan Llyn Geirionydd, a'r Elis direidus yn rhagflaenu'r cwmni, ac yn gwichian yn awr ac yn y man am inni brysuro gan fod yr awr anterth yn dynesu. Gwilym yntau a ddechreuodd ein hannerch fel un yn ymwybodol mai hwn oedd y tro olaf iddo ef, a phwysai arnom i gario 'mlaen y ddefod o flwyddyn i flwyddyn, a dadlennai gyfrinachau rhyfedd nad yw yn weddus i glustiau'r dienwaededig i'w clywed, a hyderai y byddai i bob un â'i law dde ar ei forddwyd aswy dyngu llw yn y man cysegredicaf ar y ddaear y dydd hwnnw, a phob cylchdro blynyddol o'r dydd, y byddai iddo gadw'r defodau gyda phob manylrwydd, ac yn bendifaddau arfer pob dylanwad i gadw'r ethnig (a llygadai ar Elis) o fewn gweddeidd—dra pan ddarostyngid Pair Ceridwen ar Fryn y Caniadau.
Yng nghwmni Gwilym a'i anerchiad ymadawol yn goglais y clyw hyd at gyffwrdd â llinynnau tyneraf y galon, cyrhaeddwyd lawnt Taliesin a Bryn y Caniadau. Syrthiodd gwŷr y Gwyngyll, bob un i'w le, wrth y meini gwynion a'r porthorion wrth y pyrth, ac yntau, Gwilym, gydag un neu ddau arall ar y Maen Llog yn bennoeth a'r haul yn anterth ei nerth. Yna