Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a Phowys er pan oedd yn brifathro ysgol ganolradd Trallwm, a byth er hynny yr oedd swynion yr hen afon a'i broydd teg wedi suddo'n ddwfn i'w serchiadau. "Dof, fachgen", meddai, "tua'r Pasg acw i Arwystli am ychydig ddyddiau, a Mrs. Evans gyda mi, ac fe rodiwn lannau Hafren a'r wlad baradwysaidd o amgylch". Dywedai hyn a gobeithia hyn, ond ryw fodd teimlwn ei fod yn ymwybodol ei fod yn rhodio glannau afon arall, a'i draed bron yn cyffwrdd â'i dyfroedd. Fe ddaeth y Pasg ond nid S.J. Erbyn heddiw y mae wedi croesi'r afon, ac ni fu'r croesi'n arw. Pan groesodd pererin Bunyan yr hen afon fe seiniodd holl glychau'r ddinas, a chanodd yr utgyrn—"Gartref o'r diwedd".