Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

darllenai ef i Mrs. Evans er cael ei barn hi arno, a meddai hithau farn bur gywir am werth emyn. Dyma'r unig gasgliad o emynau nad oes ynddo yr un emyn i blesio'r awdur. Fe fydd y casgliad newydd yn bur lân o'r bai hwn beth bynnag. Nid ysgolheigion ac emynwyr yw'r beirniaid gorau bob amser ar werth emyn.

Yr oedd yn ddyn llawn o hiwmor. Mwynhâi ddywediad pert a stori ddigri, ond yr oedd yn rhaid iddynt bob amser fod yn lân a chwaethus. Ar ôl gwaith y dydd, fe eisteddid wrth y ford o ddeg y bore hyd wyth yr hwyr ac eithrio'r ychydig seibiannau gyda'r prydiau bwyd. Ar ôl swper tynnid at y tân yn y gaeaf ac ar lawntiau yn yr haf, a llecid ychydig ar linynnau'r bwa, a mynych y dywedai y byddai'r munudau hynny yn gystal a gwell na photelaid o ffisig. Clywaf yn awr ei bwff iach o chwerthin o waelod ei galon.

Arfer Ap Ceredigion, pan godai'r hwyl, oedd codi ar ei draed a'i gefn at y tân a'i wyneb cyn sobred ag wyneb barnwr ar y fainc, ac yn byrlymu arabedd, ac S.J. yn ymrolio gan chwerthin. Tua deg o'r gloch edrychai ar ei oriawr a dywedai’n siriol, "Wel, fechgyn, y mae'n bryd i mi fynd".

Gweithiai tri ohonom gydag ef fel hyn am tua phedair blynedd heb na gair croes na chroesdynnu. Pan fyddai gwahanol farnau am ryw emyn, ac fe ddigwyddai hyn yn aml, fe welai S.J. y sefyllfa, ac yn ddeheuig iawn awgrymai ohirio'r drafodaeth i eisteddiad arall, ac erbyn hynny fe fyddai'r cymylau wedi chwalu a'r wawr wedi torri. Gwn y cytuna Canon W. H. Harris ac Ap Ceredigion â mi na threuliasom flynyddoedd hapusach erioed, ac i S.J. yr ydys yn ddyledus am hyn, ac i S.J. yn fwy na neb arall y mae'r Eglwys yng Nghymru yn ddyledus am y llyfr emynau newydd.

Ni feiddiwn i sangu ar dir mor gysegredig â'i fywyd preifat oni bai am yr olwg agos a gefais arno. Adwaenwn ef yn y gŵys hir o'i fywyd cyhoedd, a darllenaswn bopeth a gyhoeddai, ond ei weld ef o bell yr oeddwn y pryd hwnnw. Ond ar ddyfod ohono i ben ei dalar deuthum i'w weld ef yn ymyl, wrth ei ford a cher ei dân, a deuthum i'w edmygu a'i garu â'm holl galon. Edmygwn ef o bell, ond yn agos carwn ef.

Y tro olaf y gwelais ef yn Eryl Môr ym Mhorthaethwy edrychai 'mlaen i ddyfod i Arwystli, ac i rodio glannau Hafren a red yn furmurol heibio i'm drws. Fe wyddai ef am Hafren