Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn un ohonynt, ac yn ysgrifennydd i'r ddau gydag Esgob Abertawe a Brycheiniog yn gadeirydd. Cafodd weld y casgliad o eiriau wedi ei orffen ac eithrio'r ychwanegu a diwygio y bydd yn rhaid rhoddi sylw iddynt. Pan ddaeth gwaith ei dalar i ben ciliodd oddi wrthym yn dangnefeddus yn sŵn cân yr hen Simeon.

Yn ei gwmni ar ben ei dalar y cafodd tri ohonom y fraint o'i adnabod yn ei dŷ, wrth ei fwrdd, a cher y tân yn y gaeaf ac ar y lawnt ger y tŷ yn yr haf. Wythnosau hyfryd oedd y rhain. Ar gais Mr. Evans, a thrwy ei ddylanwad, bu i Esgobion Cymru, a'r Archesgob ddwywaith, wahodd y pwyllgor gweithiol i'w plasau. Wythnosau nad anghofir yn fuan oedd y rhain. Ond nid oedd yr un tŷ yn fwy dymunol gennym i aros am wythnos ynddo nag Eryl Môr, canys yno yr oedd ef yn ei gartref, a chwith iawn meddwl bod y bennod hapus hon wedi dyfod i ben. Dyma'r pethau bach hynny sy'n melysu bywyd, ac yn ei wneud yn werth ei fyw, canys fe ellir edrych yn ôl at y rhain gyda boddhad. Dyma rai o'i nodweddion y sylwasom arnynt ac y cawsom brawf ohonynt.

Ei garedigrwydd. Yr ydoedd yn eithriadol o garedig heb y drafferth leiaf i ddangos hynny. Teimlid ein bod yng nghwmni dyn syml a naturiol. Ei gartref ef oedd eich cartref chwi wrth aros yn ei dŷ a Mrs. Evans yn rheoli'r tŷ a'r prydiau bwyd i'r amser penodol. Ai ef i'w wely o gwmpas y deg bob nos yn gyson, a gadawai i'w wahoddedigion wneud a fynnent. Ac yn y bore ef a fyddai gyntaf i lawr.

Yr oedd yn weithiwr diwyd a chaled. Ni fynnai wastraffu un awr o amser. Ar ôl gorffen ohonom ni ein gwaith a mynd allan am dro, arhosai ef gyda'i waith. Yn rhai o'r cyfarfodydd diwethaf dangosai arwyddion o flinder, ond ni fynnai gydnabod hynny. Pan aem ni allan am dro, gorffwysai yntau mewn cadair esmwyth. Dechreuai ei afiechyd ddweud ar ei feddwl, ond yr oedd ei benderfyniad mor gryf fel y mynnai aros gyda'i waith. A phan fethai dywedai'n syml, "Wel, fe'i gadawn hi fan yna'n awr".

Yr oedd yn ddyn pwyllgor ac o farn aeddfed a theg. Ni châi'r un emyn fynd i'r casgliad er mwyn plesio'r awdur. Weithiau dywedai yn ei ddull syml, "Na, wir, fechgyn, nid yw hwn i fyny â'r safon". Dro arall dywedai, "Fe fydd canu ar hwn". Pan fyddai'n ansicr ei feddwl am ryw emyn,