Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bydd hir gofio amdano ynglŷn ag Ysgol Ganolradd Llangefni, y bu yn brifathro arni am ran fawr o'i oes, gan ei dyrchafu yn allu a ddylanwadodd nid yn unig yn y sir, ond hefyd ymhell y tu hwnt i derfynau Môn. Yng nghanol ei waith a'i brysurdeb mynnai fynych egwyl gyda llenyddiaeth ei wlad, ei hanes, a'i hynafiaethau, a bu ei bin yn prysur ychwanegu at eu cyfoeth mewn cylchgronau a llyfrau. Y fath symbyliad a roes ei Ramadeg i fechgyn a merched i ddysgu'r iaith. Heblaw hyn oll meddai ar drwydded yr Archesgob i weinyddu mewn eglwysi, a bu'n ffyddlon a diwyd yn y gwaith hwn fel ymhob gwaith arall. Trylwyredd oedd un o'i nodweddion amlycaf. Yr oedd ymron ar bob bwrdd a phwyllgor, nid yn unig yn yr Esgobaeth, ond hefyd yn y dalaith Gymreig, ac yr oedd yn ŵr doeth o gyngor ar bob achlysur.

Tynnodd gwys hir a honno'n gŵys union a glân i hyfforddi ieuenctid yn yr ystyr ehangaf. Mawr oedd ei ddiddordeb yn ei ddisgyblion, nid yn unig pan oeddynt o dan ei ofal, ond hefyd ar ôl ymado ohonynt i gylchoedd eraill. Credai yn nylanwad esiampl dda i hyfforddi, a chafodd ei ddisgyblion esiampl nad oedd bosibl ei gwell. A phrawf o hyn oedd y llu mawr ohonynt a ddaeth i'w gynhebrwng, a'r teimladau tyner a ddangosid wrth weld ei gludo i'w fedd.

Ni allai ef gyflawni'r gwaith a wnaeth onibai am yr un a fu yn ei ymyl ar hyd y blynyddoedd yn gymorth iddo ac mewn cydymdeimlad â'i ddelfrydau, a chydnabyddai hynny â gwên ar ei wyneb. Yr oedd ef a'r cylchoedd y troai ynddynt o dan ddyled fawr i Mrs. Evans.

Dyna fraslun tra amherffaith o gymeriad cyhoedd Mr. Evans. Ond beth am y dyn yn ei gartref ac ymysg ei gyfeillion? Yno y mae gweld dyn ar ei orau. Cafodd tri ohonom y fraint fawr hon, a braint y bydd yn felys cofio amdani hyd y diwedd.

Fel y dywedwyd eisoes tynnodd gŵys hir, ac wedi dyfod ohono i ben y dalar prynodd dŷ a gardd a lawnt hyfryd ym Mhorthaethwy ar lan Menai. Nid cynt yr ymsefydlodd ef a'i deulu yno nag y meddyliodd am lyfr emynau newydd i'r Eglwys yng Nghymru. Pasiwyd mynd ynghyd â'r gwaith yn un o gynadleddau Esgobaeth Bangor, a chadarnhawyd y penderfyniad gan y Governing Body. Codwyd pwyllgor o bob Esgobaeth, a phwyllgor gweithio o bedwar, a Mr. Evans