wialen a'th ffon a'm cysura". Ei ffon ef yn y glyn oedd y goleuni a gafodd, a'r goleuni hwnnw a alltudiodd y tywyllwch, a liniarodd y poenau, ac a droes lyn cysgod angau yn olau ddydd. Ymddangosai i mi ar y pryd ei fod ymhell yn y glyn, ac yn edrych yn ôl bron o'r lan draw. Ni soniodd air am y llyfr emynau newydd, y llafuriodd yn galed a diwyd wrtho am tua phedair blynedd, ac yntau yn dad iddo, canys ar ei awgrym ef yr ymgymerwyd â'r gwaith. Ciliai popeth yn awr o'i olwg, ond y goleuni hwnnw y soniodd ddwywaith amdano. Tybiwn ar y pryd mai goleuni adferiad iechyd oedd yn ei feddwl, ond pan fyfyriais ar y geiriau ar fy ffordd adref, a chofio tôn y llais a gwên yr wyneb, deffroais i'r ffaith bod mwy yn y geiriau nag adferiad iechyd. Fe allai iddo roddi'r ystyr o adferiad iechyd i'r geiriau i esmwytháu ein teimladau cynhyrfus ni, canys ni fu neb erioed yn fwy tyner nag ef. Carai wella, a gwnaeth ei orau i wella, canys nid ydoedd ond cymharol ieuanc ac yn alluog i flynyddoedd o waith, a gwyddai fod gwaith pwysig o'i flaen. Ond nid oedd yno ddim grwgnach am fod ei ffyrdd Ef yn y môr a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion. Rhyw dawelwch a hunan-ymostyngiad hyfryd oedd yno, nes creu awyrgylch nefolaidd yn yr ystafell. Yr oedd ei ystafell wely yn oleuedig gan y goleuni hwnnw a welai ef. Crwydrai angau o gwmpas y gwely, dynesai yn esmwyth iawn, a rhoddai ei law yn dyner ar ysgwydd y cystuddiedig, a sibrydai yn ei glust, “Y mae bron yn bryd inni fynd adref weithian, canys y mae'r nos yn nesu", a thybiwn ei glywed yntau yn ateb, "O'r gorau".
Y tro nesaf wedyn imi ymweld â Phorthaethwy oedd dydd ei gynhebrwng a'i gladdu. Gan fod y cynhebrwng yn breifat yn y tŷ ac yn gyhoedd yn yr eglwys, i'r eglwys yr euthum i gyda'r dyrfa fawr. Y gwasanaeth drosodd yn yr eglwys cludid yr arch a'r un blethdorch gan bedwar ffrind a'r gynulleidfa fawr yn canu'n bruddaidd "Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd". Yn Llantysilio ar ynys fechan ym Menai y rhoddwyd y corff i orffwys ac Archesgob Cymru yn gweinyddu.
Yr oedd Mr. Evans yn M.A. o Brifysgol Llundain, ac anrhydeddwyd ef â'r tair llythyren O.B.E. am ei wasanaeth i'w wlad a'i genedl. Ym myd addysg yr oedd ef yn fwyaf amlwg, a chysegrodd ei fywyd a'i holl egnion i'r gwaith hwn.