Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XVI

S. J. EVANS

FEL y dychwelwn o Fangor un tro croesais bont y Borth i Borthaethwy ac Eryl Môr i ymweld â'r gŵr mwyn o ger Menai. Clywswn nad oedd ei iechyd yn dda. Curais wrth ei ddôr, a'r newydd a glywais yno oedd ei fod yn well ar y pryd, ond ei fod ymhell o fod yn dda. Ar ôl aros ychydig o amser gwahoddwyd fi i fyny i'w ystafell wely. Clywais wedyn mai ei ddeffro a wnaeth ei briod i'w hysbysu pwy oedd yno. Pan oeddwn ar drothwy drws ei ystafell estynnodd allan ei law i afael yn fy llaw innau. Daeth llonder i'r llygad siriol hwnnw a gwên hyfryd i'w wynepryd mwyn. Ar hyn daeth pwff o chwerthin drosto, a chwarddodd yn iach am ryw stori ddigri a ddarllenasai ddiwrnod neu ddau yn ôl.

Dywedais wrtho nad oeddwn am aros ond ychydig funudau rhag ei flino, a'm taith innau ymhell. "Na, na, fachgen", meddai yntau yn ei ddull arferol, "y mae gennyf lawer o bethau i siarad â chwi". Yna ceisiodd gennyf dynnu fy nghadair yn nes at erchwyn ei wely. Ac fe adroddodd hanes ei daith ef a Mrs. Evans i Rydychen, ei ymweld â'r meddygon, a'r driniaeth a gafodd, a'i ddyfod yn ôl i Eryl Môr ym Mhorthaethwy. Dywedodd iddo fod yn bur sâl, ac iddo bron golli'r dydd ddwywaith ddiwrnod neu ddau yn ôl. "Ond yn awr", meddai, "y mae fy wyneb at y goleuni, a diolch am hynny". A chyda'r geiriau hyn yn seinio yn fy ysbryd ymadewais â thristwch trwm yn fy nghalon. Mwmiwn â mi fy hunan ar fy ffordd adref a gawn i ei weld ef eto yn y fuchedd hon. Gobeithiwn y cawn, ac eto ofnwn, a'r ofn hwn a godai ddeigryn i'r llygad a chreu rhyw wacter prudd yn y galon.

Teimlwn wrth eistedd wrth erchwyn ei wely fy mod yng nghwmni un a oedd yn y glyn, tywyll a du i ni yr ochr yma, ond iddo ef yr oedd goleuni. A dyma oleuni'r hwyr y sonia Sechareia amdano—"A bydd goleuni yn yr hwyr". Dywedai iddo bron suddo ddwywaith rai dyddiau yn flaenorol, ond yn awr yr oedd pob ofn wedi cilio, a'i brofiad ydoedd eiddo'r Salmydd, "Nid ofnaf niwaid, canys yr wyt ti gyda mi, dy