Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dau ddylanwad mawr oedd yng Ngholeg Llanbedr y dwthwn hwnnw, y Prifathro Jayne a'r Athro Owen (wedyn yr Esgob Owen). Yr oedd yno athrawon eraill gwych eu doniau yn y ddarlithfa, ond y ddau hyn oedd fwyaf eu dylanwad ar fywydau'r efrydwr. Breuddwyd Jayne oedd gwneud Coleg Llanbedr yn University of Central Wales, a phe byddai ef wrth y llyw pan ddaeth y cyfleustra, o bosibl nad hynny a fyddai. Fe ymledodd dylanwad Jayne yn gyflym drwy holl Gymru, eithr ofnid na fyddai yno'n ddigon hir i weithio allan ei gynlluniau. A'r hyn a ofnid a ddigwyddodd, ond nid cyn i lawer to o efrydwyr ddyfod o dan ei ddylanwad. Anffawd i'r Coleg oedd ymado Jayne, ac anffawd i Jayne oedd ei ymadael. Wyth mlynedd yn unig y bu yn Llanbedr, ond yn ystod yr amser byr hwn enillodd edmygedd Cymru drwyddi draw. A chlywsom ef yn dywedyd ymhen blynyddoedd wedi ei ymado mai dyna'r cyfnod hapusaf yn ei fywyd a'r cyfnod y gwnaeth fwyaf o waith ynddo.

Yr Athro Owen a ddylanwadodd fwyaf ar Fisher. Meysydd ei astudiaeth yn y Coleg ydoedd Llenyddiaeth Gymraeg, a bu'n ddyfal a diwyd trwy gydol y tair blynedd hynny.

Yr ydoedd yn ddyn ieuanc ar ei ben ei hun yn y Coleg, ac ar ei ben ei hun y gwelid ef amlaf, a rhyw lyfr bychan yn ei law neu yn ei boced wrth fynd am dro yn y prynhawnau. Weithiau aem, dri neu bedwar ohonom, gyda'n gilydd am daith go bell, ac yntau yn un ohonom, ac nid oedd neb yn fwy llon a llawen a direidus ei ymadroddion nag ef. Mwynhâi gwmni ei gyd-efrydwyr, a mwynhaent hwythau ei gwmni yntau. Ond hawdd oedd canfod mai maes ei astudiaeth oedd agosaf at ei galon. A chan na ddilynai neb yr un cwrs ag ef yn y Coleg, bu raid iddo fod lawer ar ei ben ei hun, a byw iddo ef ei hun, er y cymerai ran yn holl fywyd y Coleg. Mynychai'r Gymdeithas Ddadlau, a siaradai weithiau, ond nid yn fynych. Gwell oedd ganddo fod yn wrandawydd.

Graddiodd ganol haf 1884, ac ordeiniwyd ef i guradiaeth Pontblyddyn, gerllaw'r Wyddgrug, a gwelwn ef weithiau'r pryd hwnnw, a buom yn aros gyda'n gilydd ar droeon. Symudodd wedyn i Lanllwchaiarn, ger y Drefnewydd, ac oddi yno aeth i Ruthyn, ac yn olaf oll i'r Cefn yn ymyl Llanelwy. A'r un neilltuolion a'i nodweddai ar hyd y blynyddoedd.