Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCLXXIX. CARU CYNTAF.

PAN eis i gynta i garu,
Nid own ond bachgen bach,
Yn methu cyrraedd cusan
Heb fynd i ben stol fach;
Pan es i garu wedyn,
Yr own yn fachgen mawr,
Yn gallu cyrraedd cusan
A 'nwy droed ar y llawr.

CCLXXX. CHWYTHU.

Y GWYNT ffalwm ar fawr hwthrwm,
Chwyth dy dŷ di'n bendramwgwm.


CCLXXXI. CAMGYMERIAD.

PAN own i'n mynd â brâg tua'r felin,
Meddylies i fi gwrdd â brenin;
Erbyn edrych, beth oedd yno?
Hen gel gwyn oedd bron a thrigo.


CCLXXXII. CAN IAR.[1]

A GLYWAIST ti
Gân ein iar ni?—
"Dodwy, dodwy 'rioed,
Heb un esgid am fy nhroed;
A phe bawn yn dodwy byth,
Ni chawn ond _un_ wy yn fy nyth."
"Taw'r ffolog," ebai'r ceiliog,
"Wnaeth y crydd 'rioed esgid fforchog."


  1. O gasgliad Ceiriog yn "Oriau’r Bore."