Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCLXXXIII. CAN IAR ARALL.[1]

"MI ddodwas wy heddyw, mi ddodwas wy ddoe;
Mi wn i'r lle'r aeth,—
Morwyn y tŷ holws, gwraig y ty triniws,
Gŵr y ty bytws,—a dyna lle'r aeth."

CCLXXXIV. MYND.

AR garlam, ar garlam, i ffair Abergele,
Ar ffrwst, ar ffrwst, i ffair Lanrwst,
Ar dith, ar dith, i ffair y Ffrith,
Ar drot, ar drot, i ffair Llan-mot,
O gam i gam i dŷ Modryb Ann.


CCLXXXV. AMSER CODI.

MAE'R ceiliog coch yn canu,
Mae'n bryd i minne godi,
Mae'r bechgyn drwg yn mynd tua'r glo,
A'r fuwch a'r llo yn brefu.


CCLXXXVI. IAR FACH.

IAR fach bert yw ngiar fach i,
Gwyn a choch a melyn a du;
Fe aeth i'r coed i ddodwy wy, {110b}
Cwnmws ei chwt, a ffwrdd â hI.


  1. O gasgliad Cadrawd yn yr "History of Llangynwyd Parish"