Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CLXXV. Y WYLAN.

Y WYLAN fach adnebydd
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg, ar aden wen,
O'r môr i ben ymynydd.

CLXXVI. FY NGHARIAD.

DACW 'nghariad ar y dyffryn,
Llygaid hwch a dannedd mochyn;
A dau droed fel gwadn arad,
Fel dyllhuan mae hi'n siarad.


CLXXVII. DAU DDEWR.

DAU lanc ifanc yn mynd i garu,
Ar noswaith dywell fel y fagddu;
Swn cacynen yn y rhedyn
A'u trodd nhw adre'n fawr eu dychryn.


CLXXVIII. LLANC.

MI briodaf heddyw yn ddi-nam,
Heb ddweyd un gair wrth nhad na mam.


CLXXIX. YMFFROST.CHWARELWR[1]

Chwarelwr oedd fy nhaid,
Chwarelwr oedd fy nhad;
Chwarelwr ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad;
Chwarelwr ydyw'r baban
Sy'n cysgu yn ei gryd,
Ond tydi o'n beth rhyfedd
Ein bod ni'n chwarelwyr i gyd?


  1. Dyweder "ffarmwr," "bugail," "glowr," "gweithiwr," &c., yn ol fel y bydd eisieu.