Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai'r plentyn i gwsg. Ai'r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai'r cêl bach yn esmwyth, doi'r nos dros furiau Caer.

A yw'r hwiangerddi'n foddion addysg? Hwy rydd addysg orau plentyndod. Am genedlaethau'n ôl, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o chwith. Ceisid eu cadw'n llonydd, a hwythau'n llawn awydd symud. Ceisid eu cadw'n ddistaw, a hwythau'n llawn awydd parablu. Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A'r dull hwnnw yw, - dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio'i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd drawiadol ar y natur ddynol i'r golwg. Ei siglo'n brysur ar y glin i sŵn rhyw hen gerdd hwian, - dyna faban ar ben gwir lwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim dweud yr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o'r hwiangerddi. Ynddynt hwy geir llais greddf mamau'r oesoedd; o welediad clir cariad y daethant, ac o afiaith llawenydd iach.

A yw'r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiamau. Y mae iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i'r plentyn yn hanes dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chrymaf a sicraf yw hwn, - darllenwch ei