Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CCXXXIV. Y STORI.
HEN wraig bach yn y gornel,
A phib yn ei phen;
Yn smocio llaeth enwyn,—
Dyna'r stori ar ben.
CCXXXV. CARLAM.
CALAP ar galap, a'r asyn ar drot,
A finne'n clunhercan yn ddigon o sport.
CCXXXVI. CALENNIG.
CALENNIG i mi, calennig i'r ffon,
Calennig i fwyta, y noson hon;
Calennig i'm tad am glytio'm sgidiau,
Calennig i'm mam am drwsio'm sanau.
CCXXXVII. CARTREF.
Dacw nhad yn naddu,
A mam a nain yn nyddu,
Y naill a'r droell fawr, a'r llall a'r droell fach,
A nhaid yn y gornel yn canu.
CCXXXVIII. DAFAD.
DAFAD ddu [1]
Finddu, fonddu,
Felen gynffonddu,
Foel, a chudyn a chynffon ddu.
- ↑ Newidier yn wen, goch, lâs, fraith, frech, &c., hyd nes y cysgro'r baban