i'r ddaear, nid yw fawr o bwys pa le y bydd yn myned i chwilio am dano. Aeth yr ugain mlynedd cyntaf o'i oes yntau ei hunan heibio heb i ddim neillduol ddigwydd yn ei hanes i'w hynodi oddiwrth ei gyfoedion; ac y mae yn ddigon possibl y buasai wedi myned trwy y byd heb i'w athrylith gael ei deffroi o gwbl, oni ba'i iddo daro ar grefydd. Gan hyny, yn ei gysylltiadau crefyddol y bydd a fynom ni âg ef yn benaf.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1789, mewn bwthyn bychan a distadl o'r enw Brontyrnor. Saif Brontyrnor wrth droed y Moelwyn, un o fynyddoedd uchaf y gymydogaeth, ac ar gŵr dyffryn bychan a phrydferth Maentwrog, Sir Feirionydd. Y mae natur yn ei holl amrywiaeth wedi cyd-gyfarfod mor agos at eu gilydd, fel ag y gellir gweled yr oll o honynt ar un olwg. Mae y môr a'r mynydd, y bryniau a'r dolydd, y creigiau ysgythrog a'r moelydd llyfn, y rhaiadr ffrochwyllt a'r dyfroedd tawel: y mae y cwbl wedi eu gosod yn ddigon agos at eu gilydd fel ag y gallont gyfarch gwell i'w gilydd bob bore; ac y mae yr afon sydd yn rhedeg trwy ganol y dyffryn bychan yn ymddolenu yn ol ac yn mlaen o'r naill ochr i'r llall iddo, fel po byddai am olchi traed y bryniau sydd yn ymddyrchafu ar bob llaw iddi; ac weithiau y mae yn taflu ei llygaid yn ol i gymeryd ail-olwg ar y llanerchau prydferth y bydd newydd fyned trwyddynt, cyn ymgolli yn yr eigion. Yn nghanol y golygfeydd prydferth a swynol hyn yr agorodd WILLIAM ELLIS ei lygaid gyntaf ar y byd, ac yn nghanol yr un golygfeydd—yn mhen 66 o flynyddoedd—y darfu iddo eu cau, a myned i fwynhau golygfeydd prydferthach Paradwys Duw.
Ni bu i WILLIAM ELLIS fyned trwy holl gyfnewidiadau bywyd, fel y mae y rhan fwyaf o ddynolryw yn myned.