Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu yn faban, yn fachgenyn, yn llangc, ac yn hen langc; ac yno yr arhosodd. Nid aeth yr un cam pellach yn mlaen na hyn. Pe gofynai rhywun, Beth ydyw hen langc? ein hateb fyddai, Dyn yn sylwi mwy ar ochr dywyll colofn y sefyllfa briodasol nag ar yr ochr oleu iddi; ac, o edrych ar y tywyllwch, yn cymeryd yn ara' deg; ac, o gymeryd yn araf, yn sefyll; ac, o sefyll, yn syrthio iddo ei hunan: ac un o fìl o'r rhai sydd yn myned i lawr i'r trobwll ofnadwy yna sydd yn gallu dyfod byth allan o hono. Mae yr olwg ar helbulon y sefyllfa briodasol wedi ei ddychrynu a'i sobri, fel nas gellir byth ei briodi. Gwrthodai Offeiriad briodi pâr ieuangc unwaith, er iddynt fyned i'r eglwys, a hyny am y rheswm fod y mab ieuangc yn feddw ar y pryd. Wedi myned allan, gofynai y Person i'r ferch,

"Beth oedd eich meddwl yn d'od at yr allor gyda dyn meddw? "

"Yr oeddwn yn teimlo yn bur ddig wrthych chwi, Syr, "ebe hithau.

"Sut felly? "gofynai yr Offeiriad.

"Am y rheswm yma, "ychwanegai y ferch, "nis gwna byth briodi pan y bydd yn sobr. "

Felly y mae yr hen langciau: y maent wedi myned mor sobr, rhaid iddynt yfed yn uchel o win serch cyn y gellir byth eu priodi. Am y sefyllfa unig yr oedd WILLIAM ELLIS ynddi, gallwn sicrhau ei fod ynddi yn hollol o'i fodd. Y mae ambell i hen langc o'i anfodd, ac y mae y bywyd unig y mae yn ei fyw yr un peth iddo ag oedd pechu i Paul, "yr hyn sydd gâs genyf. "Ond yr oedd WILLIAM ELLIS wedi ei ddarostwng i'r oferedd yma yn gwbl o'i fodd. Ein rheswm dros ddyweyd hyn ydyw, ei fod yn ddyn serchog, hawddgar, tirion, a hynod o'r