Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cymdeithasgar; ac y mae y rhinweddau hyn yn gwerthu yn dda bob amser yn marchnadoedd y rhywogaeth deg. Buasai yn hawdd fod WILLIAM ELLIS wedi gwerthu ei hun drosodd lawer gwaith.

Yr oedd teulu Brontyrnor yn cael ei wneyd i fynu—er pan y daethum yn gydnabyddus â hwy—fel teulu bychan Bethania, o ddwy chwaer a brawd: Margaret, Gwen, a William. Yr oedd Margaret yn dew iawn; Gwen yn deneu iawn; a William rhywbeth yn y canol rhwng y ddau. Yr oedd Margaret yn Eglwyswraig, Gwen yn Fedyddwraig, a William yn Fothodist. Yr oedd gan Margaret aelodau drwg, a chan Gwen frest ddrwg, a chan WILIAM—os cymerwch ei air ef ei hunan—galon ddrwg. Byddai yn meddwl yn llawer gwell o grefydd ei chwiorydd nag ydoedd o hono ei hunan. Ychydig o sylw oedd yr un o'r tri wedi ei roddi i drefnusrwydd mewn dim, i mewn nac allan. Pe buasai dyn dîeithr yn digwydd myned heibio i Brontyrnor unrhyw ddiwmod, gallasai feddwl mai teulu newydd symud yno i fyw oeddynt, a'u bod heb gael amser i osod dim yn ei le. Byddai pob peth blith-draphlith ar draws eu gilydd bob amser—y llestri llaeth, y fuddai, y cafn tylino, y crwc golchi, &c., a dim ond llwybr cul rhyngddynt o'r drws at y tân. Yr oeddynt wedi deall rywfodd fod yn llawer mwy cyfleus iddynt adael pob peth wrth eu llaw, fel na byddai raid trafferthu i estyn dim pan y byddai arnynt ei eisiau. Ond or hyn byddai yno flasusfwyd o'r fath a garai unrhyw un i'w gael bob amser; ac yr oedd yn anmhosibl troi at neb mwy croesawus. Byddai y tri wrthi â'u holl egni yn croesawu y dîeithr a ddigwyddai droi i mewn atynt. Byddai Gwen yn ffaglu dan y tegell, Margaret yn hel y llestri, a William yn tori bara-a-'menyn; a byddai yn