Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fwy cyfleus ganddo redeg yr ymenyn gyda'i fawd ar y bara na thrwy yr un ffordd arall. Llawer gwaith y galwodd y diweddar Barchn. John Jones, Talsarn, a D. Jones, ei frawd, yn Mrontyrnor wrth fyned i rai o deithiau Ffestiniog i bregethu, or mwyn y pleser fyddont yn ei gael wrth weled y tri wrthi yn darparu ar eu cyfer.

Nid oedd gan y brawd ddim i'w ddyweyd wrth y chwiorydd am annhrefn y tŷ; oblegyd nid oedd dim gwell golwg ar wrthddrychau ei ofal yntau y tu allan i'r tŷ. Yn wir, yr oedd yr hen dŷ ei hunan yn hynod o'r bregus yr olwg arno; a darfu i'w land-lady, Mrs. Oakley, Tan-y-bwlch, adeiladu tŷ newydd iddo ar lanerch hynod o ddymunol: ond er i'r tŷ newydd gael ei adeiladu, a'i fod yn dŷ helaeth a chyfleus, nid oedd WILLIAM na'i chwiorydd yn teimlo dim tuedd myned iddo. Ond o'r diwedd cydsyniodd i adael yr hen aelwyd gysegredig. Wedi trigianu am ychydig flynyddoedd yn y tŷ newydd, amlygai awydd cilio yn ol i'r hen dŷ, yr hwn a orchuddid gan y brysg a'r derw. Adgyweiriwyd ychydig arno, a dychwelodd y tri yn ol. Golwg adfeiliedig iawn oedd ar bob peth perthynol iddo-y waggon, y drol, y car llusg, y cloddiau, a'r tai allan. Anfonodd at y diweddar Mr. Humphreys unwaith i ofyn a wnai efe alw yno, pan y byddai yn myned heibio i rhywle, fod arno eisieu iddo ddyfod i olwg rhyw hen feudy oedd ganddo, i edrych a fyddai yn ddiogel rhoddi yr anifeiliaid ynddo dros y gauaf. Ychydig fyddai yn ei dalu o sylw i'r terfynau oedd rhyngddo a'i gyd-dyddynwyr, ac ni ofalai lle byddai ei anifeiliaid yn pori, na pha faint o anifeiliaid ei gymmydogion fyddai yn tori ato yntau. Un tro, yr oedd Mr. Lloyd, Maentwrog—tir yr hwn oedd yn terfynu a'i dir yntau—yn rhodio ar hyd y maesydd gyda rhyw gyfeillion dieithr oedd wedi talu ym-