Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae tolciau wedi dyfod yn hynod o'r fashionable yn y dyddiau diweddaf hyn. Ond os oedd WILLIAM ELLIS yn talu rhy fychan o sylw i ymwisgo, mae llawer i'w cael yn talu gormod o sylw i hyny. Dillad ydyw y cwbl gan lawer. Am ddillad y myfyriant y dydd, ac y breuddwydiant yn ngwyliadwriaethau y nos. Pe y gofynid i lawer bachgen a geneth, "A oes dim gair o'r Beibl ar eich meddwl heddyw?" gallent ddyweyd bob amser, "Yr oeddwn yn meddwl am y gair hwnw, ' A pha beth yr ymddilladwn? ' " Beth sydd wedi dyfod allan o'r mint ddiweddaf? Anfonwyd i ni dro yn ol ddarluniau o'r Niagara Falls. Ystyrir y rhaiadr hwn yn un o brif olygfeydd y byd. Dangosir yn y darluniau led a dyfnder y golofn aruthrol o ddwfr sydd yn disgyn dros y dibyn serth nos a dydd yn ddi-dor. Ar rai o honynt y mae rhodfeydd i'w gweled, a lleoedd i'r bonoddigesau a'r boneddigion i sefyll i syllu ar y cwymp trystfawr. Yr oeddym yn dangos y darluniau hyn i ryw chwaer unwaith. Edrychai hithau arnynt trwy chwydd-wydr o un i un, a mawr oedd ei syndod. Yn ei dro daeth y darlun lle yr oedd y boneddigesau a'r boneddigion; a phan y gwelodd hwnw, aeth mor ddistaw a'r bedd. Wrth ei gweled mor ddistaw, meddyliasom ei bod wedi ei llwyr orchfygu gan arucheledd yr olygfa fawreddog, a dywedasom ynom ein hunain, "Mae yn addoli Duw natur yn yr olwg ar un o'i fawrion weithredoedd." Ond er ein mawr syndod, torodd ar y distawrwydd trwy ddyweyd, "O'r brensiach, y shawl grand sydd am ysgwyddau y lady acw ! "Yn ymyl y Niagara Falls nid oedd yn gweled dim byd ond dillad. Y dreth drymaf o'r holl drethoedd yw treth y ffasiynau. Dilledyn da, cynes, graenus, yn cael ei daflu o'r neilldu, heb un rheswm am hyny ond ei fod allan o'r ffasiwn—rhyw dor-