Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iad diweddarach wedi dyfod allan. Onid yw cymdeithas wedi myned yn ddigon pell i feddwl fod yn bryd iddi droi yn ol? Diau fod lle canol yn bod rhwng yr hyn oedd WILLIAM ELLIS a'r hyn yw cymdeithas yn ein dyddiau ni gyda golwg ar ddillad, a gallem gredu mai yn y canol y mae y lle diogelaf gyda hyn fel pobpeth arall. Byddai y diweddar Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, yn arfer dweyd, "Byddaf yn gweled mantais ar fod yn y canol gyda phob peth: Pe na byddwn ond yn myn'd trwy lidiart, y mae y cyntaf yn ei hagor, a'r olaf yn ei chau, a minnau yn cael myn'd trwyddi heb gyffwrdd fy llaw arni."