Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhag y gwlaw. Ychydig foddyliai y llangc fod gan y Gŵr sydd yn Dad i'r gwlaw ddyben arall yn cyfeirio ei gamrau tua theml yr Arglwydd. Nis gwyddom beth oedd testyn y pregethwr; ond mater y bregeth oedd "Drygioni a thwyll calon pechadur." Nid hir y bu WILLIAM ELLIS wrth y drws cyn i ddawn a difrifwch y pregethwr rwymo ei holl enaid i wrando; dilynai y pregethwr o ystafell i ystafell i weled twyll a ffieidd-dra y galon ddynol; ac er ei fawr ddychryn fe agorodd Yspryd Duw ei lygaid, a deallodd mai ei galon ef oedd y pregethwr yn ei darlunio. Nid oedd erioed wedi breuddwydio fod y fath dwyll yn ei galon, a'r fath ysgelerder yn ei bechod. Aeth yn ddychryn iddo ei hunan, ac fel ceidwad y carchar gynt, amcanodd ddwywaith i'w ladd ei hun: unwaith trwy ymdaflu dros graig serth i geunant dwfn, a'r tro arall trwy ymgrogi. Yr hyn a'i hataliodd y tro cyntaf ydoedd i gi a'i canlynai gyfarth, a thynodd hyny ei sylw oddiar ei fwriad drygionus; a'r hyn a'i hataliodd yr ail waith, pan ydoedd wedi rhoddi cortyn am ei wddf, ydoedd, iddo dybied ei fod yn clywed rhywun yn sibrwd y gair hwnw, "Nid oes i leiddiad dyn fywyd tragwyddol." Nid oedd yn gwybod yn sicr a oedd y geiriau yn eiriau Beiblaidd, ond ymryddhâodd, ac aeth i'r tŷ i edrych beth oeddynt; ac wedi iddo ddeall eu bod yn eiriau Duw, rhoddodd hyny derfyn ar y bwriad ofnadwy hwn, ac ni feiddiodd y diafol ei demtio i ladd ei hun o'r dydd hwnw allan. Ond er iddo gael ei ryddhau o'r brofedigaeth hon, yr oedd yn parhau yn hynod o derfysglyd o ran ei feddwl, a dim ond anobaith yn hylldremu yn ei wyneb. Pan yn y sefyllfa druenus hon, digwyddodd i'r hen dad Lewis Morris fod yn pregethu yn y gymmydogaeth, ac aeth WILLIAM ELLIS i wrando arno. Cymhellai y pregethwr bawb i droi eu hwynebau