Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at y Gwaredwr, gan ddyweyd "fod yr iachawdwriaeth yn ddigon i bawb." Gwaeddodd WILLIAM ELLIS o ganol y gynnulleidfa," Yr ydych yn cyfeiliorni: nid yw yn ddigon i mi." Dymunodd y pregethwr arno fod yn ddistaw nes y terfynai y cyfarfod, a dyfod i'r tŷ wed'yn os oedd ganddo rywbeth i'w ddyweyd. Felly fu. Gyda bod yr oedfa drosodd, ac i'r pregethwr fyned i'r tŷ, aeth William yno ar ei ol, a dywedodd wrtho mewn tôn gyffrous," Yr ydych wedi dyweyd celwydd—dyweyd fod yr iachawdwriaeth yn ddigon i bawb : nid yw yn ddigon i mi." Wrth ddywedyd hyn edrychai yn ffyrnig, a chauai ei ddyrnau, gan eu hysgwyd o flaen wyneb y pregethwr, ac o amgylch ei ben, fel pe buasai am ddial arno yn y fan am ei gyfeiliornad. Gallem feddwl fod "hen ddyn" Lewis Morris wedi ei gynhyrfu erbyn hyn. Codai ar ei draed, a dywedai mewn llais oedd yn ymylu ar fod yn groch," Edrych di beth yr wyt yn ei wneyd, WIL, mi safaf fì at yr hyn a ddywedais," a thra yn dywedyd y pethau hyn, ymaflodd yn ei ysgwydd, ac ar ol ysgwyd ychydig arno gosododd ef ar ei hyd ar faingc oedd gerllaw. Nis gwyddom pa faint o bwysau ei law drom a roddodd Lewis Morris arno, ond dywedir mai myned ymaith yn ebrwydd a ddarfu y llangc ar ol cael ei hunan yn rhydd oddiwrtho. Gresyn garw na buasai y pregethwr yn deall beth oedd yn ei flino, er mwyn iddo gymeryd moddion mwy efengylaidd tuag ato. Bu y tro hwn yn destyn difyrwch iddynt eu dau lawer gwaith ar ol iddynt adnabod eu gilydd yn well.

Trwy nad oedd neb o'i gydnabod na'i berthynasau yn gwybod dim am natur ei anhwyldeb, barnent ei fod wedi dyrysu yn ei synwyrau, a phenderfynasent ei rwymo fel gwallgofddyn. Ond nid oedd yr oruchwyliaeth hon yn