Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwella dim arno; ac wrth weled ei brudd-glwyf yn parhau, anfonwyd ef gydag un o'r enw William Williams, Rhyd, at berson Llanarmon, Dyffryn-Ceiriog, yr hwn a broffesai y gallai waredu rhai a feddiennid gan wallgofrwydd. Pan yn myned trwy gymmydogaeth y Bala, digwyddasant fyned heibio ffermdŷ lle yr oedd ffair auction, a safasent i weled pa fodd yr oedd pethau yn myned yn mlaen. Ceffyl oedd yn cael ei werthu ar y pryd; ac yn hollol ddiarwybod i'w arweinydd, cynygiodd William Ellis arno, a tharawyd ef iddo. Taflodd hyn William Williams i brofedigaeth fawr, am y gwyddai nad oedd ganddo arian i dalu am dano; ac heblaw hyny beth wnai efe a cheffyl o dan yr amgylchiadau yr oedd ynddynt ar y pryd? Wedi i'r ceffyl dd'od yn eiddo iddo, daeth dyn ato a gofynodd iddo, "Beth a wnewch i'r ceffyl?" "Rhoddwch ef yn yr ystabl," ebe WILLIAM ELLIS, fel Pe buasai pobpeth yn dda gyda golwg ar yr arian. Dyna lle yr. oedd y ddau, a William Williams yn y pryder dyfnaf, ac yn methu a gwybod beth a ddeuai o honynt mewn lle dieithr felly. Ond yn y cyfamser daeth rhyw borthmon at WILLIAM ELLIS, a gofynodd a gymerai efe ddwy bunt am brynu y ceffyl; dywedodd yntau y cymerai; felly talodd y porthmon bris yr auction a rhoddodd ddwy bunt i WILLIAM ELLIS dros ben. Ymddygodd WILLIAM ELLIS yn bur anrhydeddus, trwy roddi punt i'w arweinydd, a chadwodd y llall iddo ei hunan, ac ychwanegai, "Dyma i ni dipyn o arian poced, onite Bili bach? "Wedi yr oediad hwn aeth y ddau i'w ffordd, a chyfeiriasant eu camrau tua Llanarmon. Gosodwyd WILLIAM ELLIS yn ngofal y person, a dychwelodd ei arweinydd yn ol. Yr adeg yr oedd ef yn Llanarmon, bu farw Mr. Charles, o'r Bala. Mynegwyd hyn i'r person pan oedd WILLIAM ELLIS yn