bresenol. "Wel," ebe y person, "dyna un eto wedi myned i uffern."
Cauodd WILLIAM ELLIS ei ddwrn, a tharawodd y person nes oedd yn disgyn fel pren ar y llawr, ac yna disgynodd yn drwm arno, a gosododd ei ddwy fawd ar ei bibellau gwynt, a gwasgodd yn galed: yna llaciodd ychydig, a gofynodd," Pa le y mae Mr. Charles? "
Atebodd y person, gyda gwich dyn yn tagu," Yn y nefoedd."
"Mae yn dda i ti ddyweyd fel yna," ebe WILLIAM ELLIS ," onide buaswn yn dy yru i uffern cyn pen pum' munud, i gael gweled nad ydyw Mr. Charles ddim yno."
Ffordd pur ddidrafferth i argyhoeddi, onide? Dychrynwyd y person trwy yr oruchwyliaeth lem hon, ac anfonodd at ei deulu i ddyfod i'w geisio adref, a dywedai mai y cyngor goreu allai ef roddi iddynt oedd ei osod dan ofal rhai o'r enwadau crefyddol, ac ychwanegai," mai am y Methodistiaid Calfìnaidd y byddai yn son amlaf wrtho ef." Felly cyrchwyd William druan yn ol heb fod dim gwell. Os oedd yn meddiant yspryd aflan yn myned yno, yr oedd yn meddiant yr un yspryd yn dychwelyd. Os gwallgofddyn ydoedd yn myned, daeth yn ol yr un mor wallgof. Mae yn ymddangos nad oedd y brawd parchedig yn ddigon cyfarwydd i adnabod dyn mewn trallod am fater ei enaid. Barn WILLIAM ELLIS ei hunan am yr iselder y suddodd iddo oedd, Pe buasai rhyw efengylydd gerllaw, yn nghychwyniad ei argyhoeddiad, i gyfeirio ei feddwl at drefn Duw, fel y gwnaeth Paul â cheidwad y carchar, na buasai yn suddo i'r fath anobaith. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol dychwelyd o Lanarmon, penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid Calfìnaidd yn Maentwrog: ond nid oedd yn