Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEN. III.

William Ellis yn Flaenor.

Nid ydym yn gwybod pa hyd y bu WILLIAM ELLIS yn aelod yn eglwys fechan Maentwrog cyn cael ei ystyried yn flaenor ynddi. Wrth son am dano fel blaenor, dylem gymeryd hamdden i dalu gwarogaeth i'r urdd hon o swyddogion eglwysig yr oedd ef yn perthyn iddi. Y mae pawb sydd yn gwybod dim am hanes yr achos yn y blynyddoedd gynt yn gwybod hefyd am y gwasanaeth mawr y mae y swyddogion hyn wedi bod ynddo, ac yr ydym yn ddyledus i fesur mawr iddynt am y llwyddiant sydd wedi bod ar yr achos yn ein plith. Bu amser pan y byddai gofal yr achos yn gartrefol yn gorphwys bron yn gwbl ar ysgwyddau ein diaconiaid. Yr oedd y gweinidog yn weinidog i'r holl gyfundeb, a gofal cyffredinol yr achos trwy Gymru oll ganddo: ond am y blaenor, fe fyddai ef, fel y wraig rinweddol, yn gwarchod gartref; neu fel Sara gwraig Abraham, bob amser yn y babell, a'r holl ofalon yn eu hamrywiaeth mawr yn gorphwys arno. Y blaenor oedd i chwilio am y pregethwr at y Sabbath, i ofalu am y moddion ar hyd yr wythnos, ac yn goron ar y cwbl, llafur cariad oedd yr oll. Byddai yn anhawdd cael gan rai gredu gymaint a gostiodd y swydd i lawer o honynt. Meddyliodd Richard Jones, Cwrt— hen flaenor hynod ffyddlawn yn ei ddydd—am gadw cyfrif am flwyddyn, er gweled pa faint oedd ei swydd yn ei gostio iddo. Prynodd lyfr at y pwrpas hwnw, ac yr