Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn llawn fwriadu cadw cyfrif manwl am y cwbl— yr arian oedd yn ei gyfranu, yr amser oedd yn ei golli, a'r ymborth yr oedd yn ei roddi i'r pregetbwyr a lettyent yn ei dŷ. Ond un diwrnod, fel yr oedd wrtho ei hun yn synfyfyrio beth a roddai yn y llyfr gyntaf, daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Heb gyfrif iddynt eu pechodau." "Wel, wel," ebe yntau, wrtho ei hunan, "os fel yna y mae hi, ni chyfrifaf finnau ddim;" ac felly fu, ni roddodd yr un gair yn y llyfr ar ol ei brynu. Ond os na ddarfu iddo ef ysgrifenu, mae rhyw Un arall yn ysgrifenu llyfr coffadwriaeth am dano ef a'i frodyr, ac y mae dydd wedi ei ordeinio i'r cymwynasau hyn gael eu dadguddio ; a gallwn fentro dyweyd oddiyma y bydd i lawer gael eu synu wrth weled cyfres mor faith ar ol enw llawer un, am nad oeddynt hwy wedi meddwl ond ychydig o honynt erioed: dynion mewn amgylchiadau cyffredin, ac yn nghanol trafferthion bywyd, lawer o honynt, yn cael eu cyfarch gan y Barnwr yn y dydd diweddaf yn mysg ei gymwynaswyr penaf. Wrth gyfeirio at ein blaenoriaid fel rhai wedi bod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar yn nghychwyniad yr achos yn ein gwlad, ni fynem i neb feddwl nad ydynt yn ddefnyddiol yn awr, ac na bydd eu heisiau yn yr eglwys yn y dyfodol. Un peth mawr y dylai yr eglwys edrych ato, mewn adeg y mae ein cyfundeb yn myned trwy newidiadau, ydyw, dysgu enill heb golli; a chredwn pe collid gwasanaeth gwerthfawr ein blaenoriaid ffyddlon trwy y Fugeiliaeth Eglwysig y byddai ein colled yn llawer mwy na'n henill. Ond gellir cael y ddau. Er mwyn calonogi lliaws o'n blaenoriaid sydd yn llafurio mewn amgylchiadau cyffredin, gallem nodi na raid iddynt oblegyd eu hamgylchiadau, beidio a bod yn ddefnyddiol, a thrwy hyny gyrhaedd