Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawer o dynerwch cydwybod; y drwg ydoedd iddo fethu am ystyr y gair. Nid ydym i feddwl mai eithriad ydoedd un fel hyn, yr oedd llawer cyffelyb iddo. Adwaenem un hen flaenor, pan alwyd arno i ddochreu seiat unwaith, ac ar ol iddo ddechreu darllen pennod yn llyfr y Cronicl— canys yno y digwyddodd y Beibl agor, a chredai mai y bennod y disgynai ei lygaid arni gyntaf oedd yr un y mynai Yspryd yr Arglwydd iddo ei darllen—yn fuan ar ol darllen ychydig o adnodau, dyma gyfandir o enwau yn ymagor o'i flaen. Edrychodd yntau yn ddifrifol arnynt, a dywedai, gan godi ei ddwylaw i fyny," Mae arnom ofn methu wrth geisio dyweyd yr enwau hyn, yr wyf yn meddwl mae eu cyfrif yw y goreu i ni." Yna dechreuodd gyfrif, a chyfrif, hyd nes y daeth o hyd i ddiwedd y bennod, a buasai yn briodol iddo ddyweyd wedi gorphen. Felly cyfrifwyd y bennod. Yr oedd ynddo ormod o barch i'r Beibl i geisio dyweyd geiriau y gwyddai nas gallai eu swnio yn gywir; ac ar y llaw arall ni fynai fyn'd heibio iddynt yn ddisylw, a beth gwell a allasai efo ei wneyd na'u cyfrif? Ond os oedd ein tadau yn rhoddi rhy ychydig o bwys ar wybodaeth a thalent, y mae yn ofnus fod y pwn wedi troi gormod erbyn ein dyddiau ni: gwybodaeth a thalent wedi cael y flaenoriaeth, a duwioldeb amlwg yn ail beth. Nis gellir gwneyd dim a ddinystria ddylanwad crefydd yn fwy, na gadael i dalentau heb eu sancteiddio gael lle mawr yn ein heglwysi.

Nid oes dim ar goflyfrau ein Cyfarfod Misol yn dangos i WILLIAM ELLIS gael ei neillduo yn rheolaidd i'r swydd; ac yn wir, byddai yn arfer dyweyd na chafodd ei ddewis yn ffurfiol gan yr eglwys erioed. Dywedai hyn unwaith wrth y diweddar Barchedig Dr. Parry, Bala, pan oedd yn pregethu yn Maentwrog, rhyw brydnawn Sabboth. Ar-