weiniwyd i'r ymddiddan canlynol gan waith WILLIAM ELLIS yn traethu wrth y gweinidog am ei galon ddrwg, ac nas gallai byth anghofio yr olwg gafoddd arni yn Nhrawsfynydd. Gwrandawai Dr. Parry arno yn traethu am ei thwyll gyda difrifwch mawr, a gofynodd iddo—
"Os ydych yn ddyn mor ddrwg, pa fodd y dewiswyd chwi yn flaenor? "
"Ddewiswyd erioed mo honof fi yn flaenor," ebe yntau.
"Wel sut yr aethoch i'r swydd ynte," gofynai y gweinidog drachefn.
"O, mi dd'wedaf i chwi 'n union deg. Rhyw bobl bach pur ddiniwed sydd yma, a minnau yn gryn stwffiwr," ebe yntau.
"Wel, WILLIAM ELLIS," gofynai Dr. Parry eilwaith," a fyddai i chwi deimlo, pe byddai iddynt beidio a'ch hystyried yn flaenor? "
"Beth na theimla calon falch, Parry bach," ebe yntau yn ol.
Nid ydym yn meddwl y buasai neb yn dywoyd fod WILLIAM ELLIS yn stwffiwr ond efe ei hunan. Y mae yn ymddangos mai tyfu yn swyddog wnaeth WILLLAM ELLIS, ac i'r eglwys yn Maentwrog, oblegyd y rhagoriaethau oedd yn ei weled ynddo, ei ystyried yn ben arni, fel yr oedd y disgyblion yn ystyried Pedr yn flaenor arnynt hwythau. Dyma y swyddogion llwyddianus, y rhai sydd wedi eu cyfaddasu i fod yn arweinwyr, nes y bydd pawb yn cilio i roddi lle iddynt i fyned i flaen y fyddin. Nid ydynt yn llawer, ond y mae Pen yr eglwys yn gofalu am ryw nifer o rai amlwg i fod yn blaenori gyda'i achos. Mae llawer yn "cadw mwstwr" yn y blynyddoedd hyn, am y gallu llywodraethol yn cael ei wasgu i ry ychydig o le. Dywedir, gan nad ydym yn dal uwchaf-