Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaeth swyddau, y dylai pob swyddog gael rhan gyfartal yn mhob cyfarfod cyhoeddus—yn ein Cymanfaoedd, ein Cyfarfodydd Misol, a'n heglwysi unigol; a mawr ydyw y beirniadu os bydd i ryw rai gael mwy o le ynddynt na'r gweddill. Byddwn yn meddwl fod mwy o feio ar yr "Hen Gorph," fel y gelwir ef, nag ar yr un enwad arall. Y mae pawb yn ei wylio: y Chwarterolion, y Misolion, a'r Wythnosolion bethau, o'r Traethodydd fry hyd y Dywysogaeth a Llais y Wlad obry. A dyweyd y gwir, ni ryfeddem weled yr "Hen Gorph "yn codi ar ei draed yn bur fuan bellach, ac yn ymsythu, gan ofyn gyda gradd o ymffrost, "Ai môr ydwyf neu forfil, gan fod y fath gadwraeth yn cael ei osod amaf." Yr ydym ni yn credu i fesur mawr mewn Unbenaeth, ond gydag un eithriad, sef i'r pen beidio a bod yn ben gosod. Y mae y fath beth yn bod a sefydliadau a chyfundebau a phenau gosod arnynt; a phan y mae dynion yn myn'd i osod pen ar gorph y mae y pethau digrifaf yn cael eu gwneyd weithiau. Nid yw yn beth anghyffredin gweled pen Seisnig yn cael ei osod ar gorph Cymreig; y traed, y dwylaw, a'r galon yn hollol Gymreig, a'r glust, a'r llygaid, a'r tafod yn hollol Seisnig, a dim ond cwlwm oerllyd cyfraith y tir, yn cydio y pen a'r corph wrth eu gilydd. Sut y gellir disgwyl i gylchrediad y gwaed fod yn ddigon rheolaidd i gadw gwres mewn corph fel yna? Pe buasai Unbenaeth fel yna yn ein plith, buasai yn llawn bryd chwythu udgorn, galw cymanfa, a chasglu chynnulleidfa i ddyrchafu bloedd gref yn erbyn y fath gamwri. Ond nid dynion—a dim ond y neillduad fu arnynt yn rhoddi hawl iddynt flaenori—ydyw blaenoriaid ac arweinwyr ein Cyfundeb, a chyfundebau parchus eraill sydd yn ein gwlad. Pwy erioed feddyliodd ddywedyd mai penau