Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gosod oedd Harries, Rowlands, a John Wesley? Pwy freuddwydiodd unwaith mai penau gosod oedd John Elias, Williams o'r Wern, a Christmas Evans? Onid yw pob cydwybod yn tystio fod y diweddar Barchedigion Henry Rees, ac Edward Morgan, wedi eu tori allan i'r lle mawr a lanwyd ganddynt yn eu dydd? A'r un peth a ellir ei ddywedyd am y rhai sydd yn aros heddyw yn arweinwyr byddinoedd y Duw byw. Gwae y Cyfundeb hwnw o'r dydd na byddo dynion fel hyn yn arweinwyr ynddo. Blaenor wedi tyfu yn ei le oedd WILLIAM ELLIS. Ond er yr edrychai pawb i fyny ato ef, ni byddai efe byth yn edrych i lawr ar ei frodyr.

"Dau flaenor sydd yma, onide William?" gofynai Mr. Humphreys iddo mewn Cyfarfod Misol unwaith.

"Nage," ebe yntau.

"Ai nid dau flaenor sydd yma? "gofynai y gweinidog drachefn.

"lë, dau," ebe ei gyd-swyddog.

"Nage," ebe WILLIAM ELLIS drachefn," mae pawb sydd yn y sêt fawr yn flaenoriaid yma." Fel yna yr arferai efe edrych ar ei frodyr.

Gwasanaethodd WILLIAM ELLIS swydd diacon yn dda, ac enillodd iddo ei hunan radd dda. Yr oedd yn flaenor wedi ei raddio. Y mae graddau wedi dyfod yn nwydd marchnadol yn ein dyddiau ni, ac y mae llawer o brynu arnynt: ond nid yw y graddau a brynir yn werth rhoddi dim am danynt; yn y rhai a enillir y mae y gwerth. Gradd wedi ei enill oedd gan WILLIAM ELLIS, ac ni wyddom am yr un blaenor wedi ei raddio yn uwch. Byddai yn cael ei weled yn mhob cynnulliad, o'r Ysgol Sabbothol fechan a gynhelid yn Nglan-yr-afon, lle y byddai yn arfer bod bob amser, hyd y Gymdeithasfa Chwarterol.