Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gadw y cythreuliaid rhag ein niweidio. Y mae yn swydd digon sâl iddynt hefyd, a ninnau yn rhai mor ddrwg." Gofynai y pregethwr," A ydych yn meddwl eu bod yn dyfod i'n byd ni o gwbl?" "O ydynt," ebe yntau, "ac y mae guard o honynt yn dyfod i nol pob dyn duwiol. Daethant i nol Richard Jones, o'r Wern, dipyn bach yn rhy fuan, yr oedd o heb fod yn hollol barod. Darfu iddynt hwythau ganu bennill uwch ben y tŷ, i aros iddo fod yn barod, ond 'doedd neb yn deall y geiriau na'r dôn ychwaith: iaith a thôn y nefoedd oeddynt." Yr oedd rhai o'r cymmydogion yn dyweyd fod swn canu nefolaidd uwchben Rhosigor — y tŷ lle y bu Richard Jones farw ynddo ychydig amser cyn iddo ehedeg ymaith; a dyma ydoedd esponiad WILLIAM ELLIS arno. Y mae cymaint a hyn beth bynag i'w ddyweyd dros ei olygiad: y mae angylion yn medru canu yn dda, ac y maent yn llawenhau pan y mae un pechadur yn edifarhau; ac os ydynt yn llawenhau pan y mae y gwaith da yn cael ei ddechreu, y mae yn ddigon naturiol meddwl fod y llawenydd hwnw yn troi yn gân orfoleddus pan y mae y gwaith da hwnw yn cael ei orphen. Pa un ai WILLIAM ELLIS oedd yn credu gormod, ai y lliaws sydd yn credu rhy ychydig am y bodau ysprydol hyn, gadawn i'r darllenydd benderfynu.

Byddai yn cael ei barchu yn fawr gan yr oll o'i gymmydogion, a hyny yn benaf ar gyfrif ei dduwioldob. Ni feiddiai yr annuwiolion caletaf bechu yn rhyfygus yn ei bresenoldeb, er na fyddai yn dyweyd llawer wrthynt un amser. Dengys yr hanesyn a ganlyn y byddai yn arfer 'eu rhybuddio ar brydiau. Yr oedd ef a chyfaill iddo allan un noson ar ystorm o fellt a tharanau dychrynllyd iawn. Ymddangosai ei gyfaill yn ofnus iawn: ond yr