Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd WILLIAM ELLIS yn dawel a digyffro, ac fel pe buasai yn mwynhau yr olygfa fawreddog. Yn fuan torodd ar y distawrwydd trwy ddyweyd," Mi fyddaf fi yn bur hoff o dipyn o fellt; yr oeddwn unwaith yn y cynhauaf gwair yn mysg troop o rai pur gellwerus ac annuwiol, nid oedd nemawr ddyben i mi ddyweyd dim wrthynt. Ond yn fuan daeth y Gŵr ei hun i siarad â nhw trwy y mellt, ac aethant oll yn y fan yn bur sobr a distaw."

"Ond," meddai ei gyfaill," y mae mellt yn bethau peryglus iawn, ac y mae yr un ddamwain yn digwydd i'r cyfiawn a'r drygionus."

"Ydynt," ebe yntau," ond y mae gan yr Arglwydd ryw favourites nad yw yn ewyllysio eu galw adref yn mhob dull."

Bellach ni a adawn y mater cyntaf, gyda dy adgofio di, ddarllenydd, mai unig sylfaen gwir ddylanwad ydyw duwioldeb. "Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd."