Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyw ddirgel obeithion yr adferid yr holl greadigaeth ryw bryd ar sail haeddiant yr Aberth mawr. Diolchai yn gynes ar weddi tua mis cyn ei farw am i'r Arglwydd o'i fawr gariad rhad ein cofio ni ddynion, ac ychwanegai, "Y mae rhyw droop mawr arall wedi myned i lawr, ac nid oes dim gobaith iddynt hwy am a wyddom ni, efallai y gwyddost Ti rywbeth." Ymddiddanai â phregethwr unwaith am y bydoedd uwch ben, a gofynai, "A oes yno fodau rhesymol fel nyni ?" "Y mae yn ddigon tebyg fod," ebe y pregethwr, "ond gall nad ydynt yn bechaduriaid fel ni." "Wel, wel," ebe yntau, "os ydynt yn bechaduriaid, nid oes dim yn eisiau ond iddynt glywed trwy weinidogaeth angylion, neu ryw sut, am haeddiant Aberth y Groes, y mae digon ynddo i'w cadw nhw i gyd." Y pethau hyn a'u cyffelyb, barodd i'r diweddar Mr. Humphreys, wrth wneyd sylwadau coffadwriaethol am dano mewn Cyfarfod Misol, ar ol ei gladdu, —ddyweyd fol hyn, "Yr oedd nefoodd WILLIAM ELLIS yn eangach na nefoedd nob arall, hyny ydyw, yr oedd am i fwy gael myned yno na neb arall ar a adwaenwn i."

Ond hoblaw fod ganddo ei olygiadau eang, yr oedd ganddo ei ffordd ei hun o draethu ei syniadau ar bron bob peth. Gofynwyd iddo unwaith a wnai efe areithio ar Ddirwest, ryw nos Sabbath yn Maentwrog. Cydsyniodd yntau a'r cais, ac addawodd wneyd. Y nos Sabbath a ddaeth, a mawr oedd y disgwyliad am dano. Wedi i ryw frawd ddechreu trwy ddarllen a gweddïo, galwyd WILLIAM ELLIS, at ei waith. Dechreuodd yn debyg i hyn:—

"Pan oeddwn yn dyfod i fyny at y capel heno, fe ddaeth y diafol i'm cyfarfod, a gofynodd a wnawn i gario cenadwri bach oddiwrtho i'r cyfarfod dirwestol yma; ac ar ol i mi addaw gwneyd, dywedai mai dyna oedd arno eisiau,