cyflwyno ei ddiolchgarwch gwresocaf i'r rhai sydd yn parhau yn ffyddlon iddo, a hyny mewn adeg y mae cryn lawer yn ei adael, ac yn cymeryd yr ardystiad dirwestol. Ac am y rhai hyny a'i gadawodd am dymmor, ond sydd wedi edifarhau a dychwelyd yn ol i'w ei wasanaeth, y mae yn ddiolchgar dros ben i'r rhai hyny hefyd. Gofynai i mi ddyweyd ei fod yn sicr o gofio am danoch, ac o adael i chwi gael yr un byd ac yntau. Mi gewch fyw yn yr un cartref, cysgu yn yr un gwely, ymborthi ar yr un pethau. Ond ni pharodd i mi ddyweyd mai uffern ydyw ei gartref, mai mewn gwely o dân y mae yn gorwedd, ac mai ar ddigofaint y mae yn gorfod ymborthi. Ond dyna y gwir am dano, ac ni bydd ganddo ddim gwell i'w roddi i neb o'i weision ffyddlonaf." Traethai y pethau hyn gyda'r fath ddifrifwch a nerth, nes gwneyd i'r caletaf ei galon oedd yn bresenol arswydo, a thystiai rhai o honynt nas gwyddent pa le yr oeddynt yn sefyll.
Fe gofir yn hir y sylw a wnaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, pan oeddynt yn ymddiddan a'u gilydd yno am yr haint oedd wedi tori allan ar y pytatws. Yr oedd pawb a'i reswm ganddo, ac fe gymhellodd Mr. Rees, y llywydd, WILLIAM ELLIS i ddyweyd gair. Wedi peth cymhell, cododd ar ei draed ar lawr y capel, a dywedai yn debyg i hyn, "Y mae rhai yn barnu mai rhyw blaned sydd wedi dyfod yn rhy agoa i'r ddaear, ac wedi drygu y llysieuyn hwn, yr hwn oedd yn rhan fawr o gynhaliaeth dyn. Ond os dyna ydyw yr achos, nis gallem ni yma wneyd dim byd gwell heddyw na threfnu i gyfarfodydd gweddïo gael eu cynal trwy y wlad i gyd, i ofyn i'r Hwn sydd yn gallu galw y ser wrth eu heuwau, i roddi ei fys arni. Mi fydd yn gynhwrf anghyffredin yn y nefoedd, pan y bydd plant Duw mewn rhyw gyfyngder ar y ddaear. Mi 'roedd yn