helynt garw yno yn amser bwrw y tri llangc i'r ffwrn dân. Yr holl angylion ar eu hadenydd o amgylch yr orseddfaingc eisiau cael myned i lawr i'w gwaredu. Gabriel yn gofyn, A gaf fi fyn'd i waredu y llangciau?' Na, ni wnei di mor tro i fyn'd i'r ffwrn dan, 'dwyt ti ddim yn holl bresenol; pau y byddi di yn lledu dy adenydd dros Sadrach fe fydd y Mam yn deifio gwallt pen Mesach; mi äf fi i lawr fy hunan heddyw: a dull y pedwerydd oedd debyg i Fab Duw.'" Ni welwyd erioed y fath effeithiau ag oedd yn dilyn y sylwadau hyn. Wrth weled y fath gynhwrf yn mysg y rhai oedd yn ei ymyl ar y llawr, gofynai y rhai oedd ar y gallery yn methu ei glywed i'r llywydd ail-adrodd. "Fedrai ddim," ebe Mr. Rees, "a phe buasech chwithau yn fy lle i, nis gallasech chwithau ychwaith ei ail-adrodd."
Wrth siarad mewn Cyfarfod Misol ar gynhaliaeth y weinidogaeth, dywedai wrth y pregethwyr fod ganddynt hwy eu hunain lawer i'w wneyd mewn trefn i gael yr eglwysi i gyfranu, ac ychwanegai, "Mai trwy galonau y bobl yr oedd y ffordd oreu i fyned i'w pocedau." Wedi rhoddi gwers i'r pregethwyr trwy yr awgrymiad cynhwysfawr yna, aeth yn mlaen i draethu ar ddyledswydd yr eglwysi i'w cynal, yn debyg i hyn, "Mae y drygau mawr y mae y Beibl yn eu gwahardd yn cael eu nodi allan trwy roddi y gair bach 'na' o'u blaen. 'Na wna odineb', 'Na ladrata','Na ddwg gamdystiolaeth.' Ond y mae yna un 'na' bach nad yw eglwysi y Methodistiaid wedi sylwi arno, 'Na chau safn yr ych sydd yn dyrnu'." Ni byddai un amser yn ymresymu yn hir, ond gair byr a hwnw bob amser yn disgyn yn syth ar ben yr hoel.
Cofus gonym fod anogaeth yn cael ei anfon oddiwrth y