Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn, ac ystyried mai dau o'r gloch ydoedd?" "O, hwn a hwn bach," ebe yntau, "ni bydd yr Yspryd Glân byth yn edrych pa faint fydd hi o'r gloch."

Yr oedd dyn ieuang nad oedd yn cael ei ystyried yn gufydd oddiarno, yn y dosparth y perthynai WILLLAM ELLIS iddo, eisiau cael myned i bregethu, ac efe oedd yn rhoddi ei achos i lawr. Gofynai Mr. Humphreys iddo, ar ol i'r cyfarfod fyned drosodd: "Sut yr oeddych chwi, WILLIAM, yn dwyn achos y dyn ieuangc yna yn mlaen: maent yn dyweyd i mi nad yw yn gall iawn?" "Wel na, yn wir," ebe yntau, "tipyn o natur chwerthin am ei ben ef sydd: ond yr oedd arnaf fi ofn methu; mae y Gŵr yn gallu gwneyd defnydd o rai go ryfedd; ac mi wyddoch chwithau, Richard bach, nad ydych chwi y pregethwyr ddim yn gall i gyd."

Aeth gŵr ieuangc porthynol i'r eglwys—lle yr oodd WILLIAM ELLIS yn flaenor—ato un diwrnod i ddyweyd wrtho ei fod yn teimlo awydd mawr i fynod yn bregethwr. "Felly yn siwr," ebe yntau, "da iawn, da iawn: ond a fuost ti yn meddwl, machgen i, pa un ai y diafol ai yr Yspryd Glan sydd yn dy gymbell di?" Atebodd y gŵr iouangc yn gryf a phenderfynol: "Nid wyf fi yn gwneyd dim concern â'r diafol, WILLIAM ELLIS." "Purion, purion," ebe yntau, ond y mae gan y diafol fintai fawr wedi eu codi i'r pulpud; wyt ti yn siwr dy fod wodi adnabod ei ddichellion ef E——— bach? Mae o yn bur hen wel di, ac yn llawer cryfach ei bon na thi a minnau, er fod Iesu Grist wedi ei ysigo ar Galfaria."

Yr oedd WILLIAM ELLIS, a'i hen gyfaill W. Williams, Tanygrisiau, a Mr. Humphreys, yn ymddiddan am hen bobl Maentwrog. Yr oedd W. Williams wedi bod yn byw yn y gymmydogaeth am dymmor, a dywedai, "Nid