oes ond ychydig o'r hen bobol oedd yn perthyn i'r eglwys acw pan oeddwn i yn byw yn y gymmydogaeth yn aros, ai oes WILLIAM ELLIS?" "Nac oes," ebe yntau, "mae hon a hon yn fyw, onid ydyw?" gofynai ei gyfaill. "Ydyw, y mae hi yn aros," ebe yntau. "Hen wraig dduwiol ydyw hi, onide?" ychwanegai W. Williams. "Ië," meddai yntau, "dduwiol iawn; ond y mae hi yn bur arw am ddyweyd tipyn o gelwydd." "Sut, sut," gofynai Mr. Humphreys, "hen wraig dduwiol galwyddog? Mae yn swnio yn bur chwithig ar fy nghlust i. WILLIAM." "Ydyw, mi wn," ebe yntau, yr ydych chwi, Mr. Humphreys, wodi usio dyweyd y gwir erioed; ond am dani hi, yr oedd hi heb ei hegwyddori yn blentyn i ddyweyd y gwir; ac os dechreua plant ddyweyd celwydd yn ieuaingc, ni wna gras eu llwyr ddiddyfnu oddi-wrtho tra y byddent yma: ond fe wyr y Brenin mawr am danynt yn bur dda, ac y mae yn pasio heibio i rhyw bethau gweiniaid sydd yn ei blant. Fe faddeua y cwbl iddynt er mwyn Iesu Grist."
Gofynai y diweddar Barch. D. Jones, Treborth, iddo: "Sut yr ydych yn meddwl y byddwn ni yn y nefoedd, WILLIAM ELLIS?" "Wel, mi ddywedaf i ti," machgen i, "mi fyddwn fol y borchell bach yn nghafn y felin, yn nghanol y blawd, a'i geg o dan y pin; ni wychia fo yn ei fyw am ragor."
Gan nas gallwn ddyfod i ben ag ysgrifenu ei holl sylwadau bob yn un ac un, ni a derfynwn gan hyderu ein bod wedi cofnodi digon am dano i ddangos ei fod yn ddyn o athrylith, a bod yr athrylith hono wedi ei bedyddio i'r Yspryd Glan ac â thân.
Awn yn mlaen bellach at y trydydd peth a nodasom.