III. El Hynawsedd.
Yr oedd WILLIAM ELLIS mor llawn o natur dan ag ydoedd ei feddwl o athrylith. Ni fynai roddi tramgwydd i neb, a byddai mor ofalus rhag archolli teimladau ei gymmydogion ag a fyddai rhag gwneyd niwed corphorol iddynt. Heblaw ei fod yn un na roddai dramgwydd, nid yn fynych y cymerai efe dramgwydd ychwaith. Ac efallai fod yn ddigon anhawdd penderfynu pa un ydyw y rhinwedd mwyaf mewn dyn, peidio rhoddi ai yntau peidio cymeryd tramgwydd. Mae rhai dynion yn hawdd iawn eu tramgwyddo, cymerant dramgwydd oddi wrth bob peth. Rhaid gofalu sut i siarad â hwy, a sut i edrych araynt, rhag ofn i chwi eu briwio. Nid oes dim byd mwy difyrus na nursio plant bach—baby bach deunaw neu ugain modfedd o hyd, ac o saith pwys i ddeg o bwysau; mae o yn beth difyr! Ond, yn wir, y mae yn beth blinderus nursio plant mawr—baby mawr dwy lath o daldra, ne o wyth i ddeg ugain o bwysau—mae yn beth gwirioneddol flin, ne eto y mae yn rhaid gwneyd hyn gyda rhai dynion; ond nid oedd WILLIAM ELLIS yn un o honynt; a phe digwyddai, ar ryw dro siawns, iddo gael ei dramgwyddo, fe wnai yr edifeirwch sala' erioed y tro ganddo. Nid fel rhai nas gellir byth eu boddio yn edifarhau. Pe yr elech atynt wedi rhwygo eich dillad, a phridd ar eich pen, a chostroleidiau o ddagrau edifeirwch yn eich dwylaw; gan ddiystyru hwy a ddiystyrent yr oll. Clywsom am un yr oedd ei gymmydog wedi ei ddigio, a chymerwyd ef yn glaf. Ofnai y cymmydog iddo farw cyn iddynt gymodi, a phenderfynodd fyned i edrych am dano.