Wedi myned, dywedai: "Mae yn ddrwg iawn genyf ddeall eich bod mor wael, ac yr wyf wedi dyfod yma i ofyn beth raid i mi ei wneyd er cael genych ysgwyd llaw â mi?"
"Wel," ebe y claf, "ewch i lawr wrth y gwely yma." Syrthiodd y cymmydog ar ei liniau yn y fan; yna taflodd y claf ei lygaid arno, a dywedai,— "Yn is na hyna.". Ymollyngodd yntau ar ei benclinoedd; edrychodd y claf arno drachofn, a dywedai eilwaith,—
"Yn is na hyna."
Ymollyngodd yntau ar ei hyd wrth ochr y gwely a gofynai,—"A ydwyf yn ddigon isel yn awr?"
Cododd yntau ar ei benelin, ac edrychodd dros yr erchwyn a dywedai yn lled anfoddog,—"Mae yna oleuni o danat eto."
Nid oedd yn bosibl i'r truan fyned yn ddigon isel i ddangos ei fod yn edifarhau; ac y mae i'r un yna bump o frodyr. Ond fol y dywedwyd eisioes, nid oedd WILLIAM ELLIS yn un o honynt.
Fel dyn mwynaidd, llariaidd, a hynaws, yr oedd WILLIAM ELLIS yn adnabyddus gan bawb, ac os digwyddai "lefaru yn arw," byddai yn rhaid iddo ymddieithro i'w frodyr cyn y gallai wneyd hyny. Gallwn adrodd hanesyn. neu ddau am dano i ddangos y byddai yn myned allan o'i ffordd gyffredin. O gylch y flwyddyn 1838, anogodd. Cymanfa y Gogledd ar fod diwrnod o ymprydio a gweddïo am yr Yspryd Glân i gael ei gadw trwy yr holl wlad. Cydymffurfiodd Maentwrog, fel lleoedd eraill, a'r cais, a hysbyswyd y Sabbath y byddai cyfarfod eglwysig am wyth yn y boreu, a chyfarfodydd i weddïo am ddeg, dau, a chwech yn yr hwyr, ynghyd ag anogaeth ar i bawb ym