Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gadw rhag ymborthi. Yr oedd WILLIAM ELLIS, a hen frawd hynod o'r duwiolfrydig, yr hwn oodd gyfaill mynwesol iddo, o'r enw John Edward, ynghyd â brawd arall (gan yr hwn y cawsom yr hanesyn), yn dychwelyd gyda'u gilydd o'r cyfarfod ddeg o'r gloch. Ymddangosai y tri yn lled bruddaidd a digalon, a hyny yn bennf, mae yn debyg, am nad oedd dim cinio yn aros am danynt. Pan oeddynt yn ymadael oddiwrth eu gilydd, torodd John Edward ar y distawrwydd trwy ddyweyd yn lled sydyn,— "WILLIAM ELLIS, rhaid i mi gael bwyta dipyn ganol dydd yma, gan fod yn rhaid i mi fyn'd i ladd mawn tân y cyfarfod gweddi nesaf."

"Na, ni wiw i ti fwyta yr un tamaid, na lladd yr un fawnen heddyw, Jack."

"Wel, nis gwn yn y byd beth a wnaf," ebe yntau yn ol, "os na laddaf fi fawn, mi ladd Neli fi, a phwy fedr ladd mawn heb ddim bwyd?" ac ychwanegai, "ni waeth ini beth a ymprydiom nae a weddïom os na chawn ni 'anian dduwiol,' yn ol y byddwn yn y diwedd er pob peth."

"Trimmings yr anian dduwiol ydyw ympryd a gweddi," meddai WILLIAM ELLIS, "a lle gwael i ti feddwl fod genyt anian dduwiol os medri di fwyta a lladd mawn heddyw, ar ddydd y mae y Gymanfa wodi ei neillduo i ymprydio a gweddïo am yr Yspryd Glan."

Yr oedd y sylw yna yn ddigon oddiwrth WILLIAM ELLIS i wneyd yr hon frawd John Edward yn llyn dwfr. Syrthiodd ei wynebpryd, ac aeth ymaith yn athrist: ond nid aeth i'w dŷ ei hun; ymneillduodd i geunant oedd ger llaw, a dyna lle y bu yn gweddïo hyd ddau o'r gloch. Wedi ymneillduad John Edward, aeth WILLIAM ELLIS i mewn i dŷ y brawd arall, a dywedai wedi eistedd i lawr: