Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Billa bach, mi fyddai yn well i ni gymeryd rhyw bigiad bach bob un, rhag i'n natur losgau gormod i addoli yn y prydnawn."

Ar hyn ymosododd ei gyfaill arno, a dywedodd,— "Wel, WILLIAM ELLIS, chwi yw y dyn rhyfoddaf welais i erioed, dyna chwi wedi tori calon yr hen frawd, a'i anfon i'r ceunant, lle na cha damaid i'w fwyta; ond dyma chwi yn bwyta eich hunan, ac yn fy anog innau i fwyta hefyd."

"Taw, taw, Billa bach," ebe yntau, "yr oedd eisiau argyhoeddi John Edward am bwysigrwydd ympryd a gweddi: dyna pam y darfu i mi ymddwyn mor llym ato fo. Mi wnaiff bod yn y ceunant am ddwy awr les mawr iddo; mi weddïa yn dda, gei di wel'd, yn y cyfarfod dau o'r gloch." Ac felly fu, fe weddiodd y tro hwn yn fwy hynod nag y byddai yn arfer o lawer iawn. Aeth WILLLAM ELLIS at y cyfaill arall ar ol i'r cyfarfod gweddi derfynu, a dywod— ai tan rwbio ei ddwylaw,—

"Wel, mi dalodd goruchwyliaeth y ceunant yn dda i'r hen frawd. Glywaist ti fel yr oodd o yn gweddïo?"

Y tro arall yr ydym yn ei gael yn llefaru yn arw, ac yn wir wedi myned i chwythu bygythion, ydoedd wrth y gŵr a'r wraig oodd yn byw yn y Tŷ Capel, Maentwrog. Clywodd eu bod yn son am fyned i Flaenau Ffestiniog i fyw, ac nis gallai feddwl am eu colli. Yr oodd y wraig yn un mor gymhwys i gadw tŷ capel, a'r gŵr mor ddefnyddiol gyda phob peth yr achos. Wedi clywed an hyn gofynodd iddynt, a oodd rhywbeth yn hyny? Dywedasent hwythau eu bod wedi gwneyd eu meddwl i fyny i symud. Ar hyn dechreuodd arnynt, a dywedai y byddai yr Arglwydd yn sicr o dori i gyfarfod â hwynt, am iddynt adael lle bach gwan, yr oeddynt