Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mor ddefnyddiol ynddo, a meddwl am fyn'd i Ffestiniog lle yr oedd digon o bobl at bob peth. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol yr ymddiddan hwn, fe gyfarfyddodd y gŵr â damwain fechan yn y gwaith; cariwyd ef adref. Clywodd WILLIAM ELLIS am y ddamwain, ac aeth i fynu i dŷ y capel, er gweled sut yr oedd pethau yn bod. Wedi myned i mewn, gofynodd pa le yr oedd y gŵr; a hysbyswyd ef ei fod yn gorwedd ar y sofa yn y parlwr. Aeth yntau yn mlaen, ac estynodd ei ben trwy y drws, a gofynodd,—"Ai hyna a ge'st ti P———? Mae y Gŵr wedi bod yn llawer gwell wrthyt nag yr oedd wedi dangos i mi y byddai." Ar hyn trodd i fyned allan,— "Aroswch," ebe y gŵr, "beth sydd i gyfarfod â'r wraig eto, WILLIAM ELLIS?"

"'Dwn i ddim," ebe yntau, dan gerdded tua'r drws, "mae gan y Gŵr yr ydych chwi yn ei ddigio lawer of wiail yn ei fwndel."

Parodd ei fygythion a'i ymddygiad lawer o bryder i feddwl y ddau. Ond dywedasom yn barod, y byddai yn rhaid iddo ymddieithrio i allu llefaru yn arw; tynerwch oedd y mwyaf cydnaws ag ansawdd ei yspryd ef.

Byddai rhai yn meddwl fod tynerwch WILLIAM ELLIS yn rhwystr iddo wneyd cyfiawnder mewn achos o ddisgyblaeth eglwysig. Ond y mae llawer nad ystyrient ddim yn ddisgyblaeth gwerth son am dano, ond tori allan, a rhaid i hyny gael ei wneyd yn y modd mwyaf dideimlad. Y peth olaf a wnai efe fyddai diarddel, a phan yn gweinyddu y radd uchaf o gerydd eglwysig, byddai yn disgwyl i'r diarddeliad fod yn foddion o ras i'r trosoddwr; a byddai bob amser yn cadw golwg arno er gweled beth fyddai offeithiau y cerydd. Un peth fyddai yn achos i rai ameu ei fod yn rhy dyner ei galon i weinyddu disgyblaeth