ydoedd,—y byddai bob amser yn arbed teimladau y troseddwr. Mae nwydau drwg lawer gwaith wedi trawsfeddiannu enw zel grefyddol; a thaiogrwydd natur afrywiog wedi ei alw yn blaender cristionogol. Peth arall fyddai yn gwneyd i rai ei ammheu yn hyn, ydoedd, y byddai bob amser yn rhoddi bob peth ammheus o blaid y troseddwr. Edrychai, nid ar y pechod a gyflawnwyd yn unig, ond ar yr amgylchiadau a'r demtasiwn o dan ba rai y cyflawnwyd y trosedd, a byddai yn cymeryd i ystyriaeth —cyn gweinyddu barn—pa fath ddygiad i fynu fyddai y troseddwr wedi ei gael. Ac y mae yn anhawdd i gyfiawnder gael ei weinyddu hob roddi lle i'r ystyriaethau hyn. Efallai mai y trosedd y byddai yn dangos mwyaf o dynerwch tuag ato, fyddai, "ieuo annghydmarus:" ond er hyny, credai yn ddiysgog ei fod yn drosedd, ac nad oedd dim i'w wneyd â'r troseddwr ond ei ddiarddel. Clywsom ef yn dyweyd, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes, ei fod wedi cadw golwg ar briodasau o'r fath, a bod ganddo liaws o ffeithiau yn dangos fod Duw yn ei ragluniaeth yn gwgu arnynt. Tybiai ef, os byddai un o'r byd am gael cydmar bywyd yn proffesu, mai mwy diogel ydoedd i'r un oedd allan ddyfod i mewn nag i'r un oedd i mewn fyned allan. Dywedir iddo fyned i gymhell un dyn unwaith i fyned i'r seiat yn hytrach nac iddo achosi i'r ferch gael ei thori allan o'r eglwys. Ond gallwn fod yn sicr fod y dyn hwn yn "Gristion o fewn ychydig," onide ni buasai WILLIAM ELLIS yn ei gymhell i fyned i mewn.
Byddai am osgoi, hyd ag y byddai yn bosibl, dwyn pob trosedd i'r eglwys i'w gospi. Gweinyddodd lawer o geryddon mewn dirgel-fanau, lle na byddai neb ond y troseddwr ac yntau. Clywodd unwaith fod tair merch